Llyfr Cofio Torfaen
Mae’r Llyfr Cofio wedi ei leoli ar llawr 2 y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, yn y coridor sy’n arwain at Siambr y Cyngor. Mae’n rhestru enwau’r dynion a menywod o Ardal Trefol Pont-y-pŵl a bu farw yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Rhyfel Byd (1939 i 1945).
Mae'r Llyfr yn nodi enwau'r rhai a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol a'r Llynges Fasnachol gyda phob adran wedi'i rhestru yn nhrefn yr wyddor. Cafodd y Llyfr ei goffáu ym 1955 ac mae yn Saesneg yn unig.
Mae’r Llyfr Cofio yn agored i’r cyhoedd, fodd bynnag, oherwydd mesurau diogelwch yn y Ganolfan Ddinesig, bydd angen i aelodau’r cyhoedd sydd am weld y llyfr, gofrestru a chael eu tywys i’w leoliad.
Yma gellir gweld copi o'r Llyfr Coffa wedi'i sganio. (Saesneg yn unig)
Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru
Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod fu’n gwasanaethu, yn ogystal ag aelodau’r Catrodau yng Nghymru, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r unigolion hyn wedi eu rhestru yn ôl catrawd a bataliwn ochr yn ochr ag enwau’r rheiny a allai fod wedi marw ochr yn ochr â hwy. Yn ogystal â chael ei gadw mewn cromgell danddaearol, arbennig yn Nheml Heddwch Caerdydd, mae’r llyfr wedi cael ei ddigideiddio i bawb gael ei weld.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/03/2022
Nôl i’r Brig