Cymorth Meddygol
Gan eich bod yn y lluoedd arfog, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi symud i sawl gwahanol leoliad. Mae'n bwysig eich bod yn trefnu gofal meddygol cyn gynted â phosibl. Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu cyngor ynghylch y gofal meddygol sydd ar gael.
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Mae ganddynt Ganolfannau Seibiant ledled y wlad ar gyfer y rhai hynny sy'n gwella ar ôl salwch, profedigaeth neu ddigwyddiadau eraill sy'n effeithio ar fywyd.
Gwefan: www.britishlegion.org.uk
Byddin y Weinyddiaeth Amddiffyn
Maent yn darparu gwybodaeth am ofal ar gyfer y rhai sydd wedi'u hanafu, gofal iechyd meddwl a gofal iechyd ar gyfer teuluoedd.
Gwefan: www.army.mod.uk
Iechyd Cyn-filwyr Cymru Gyfan
Ariannwyd Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-filwyr Cymru Gyfan gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2010 ac mae'n cael ei ddarparu gan GIG Cymru. Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol wedi penodi Therapydd Cyn-filwyr, sef clinigwr profiadol sydd â diddordeb mewn problemau iechyd milwrol neu brofiad ohonynt.
Ffôn: 029 2074 2062 (dydd Llun i ddydd Gwener - 8.00 - 3.30)
E-bost: sharon.bowles@wales.nhs.uk neu neil.kitchiner@wales.nhs.uk
Gwefan: www.veteranswales.co.uk
Blind Veterans UK
Mae Blind Veterans UK, sef St Dunstan's gynt, yn credu na ddylai unrhyw un sydd wedi gwasanaethu ein gwlad orfod ceisio ymdopi â dallineb ar ei ben ei hun. Maent yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol, waeth pryd y bu'r unigolyn yn gwasanaethu na sut y collodd ei olwg.
Gwefan: www.blindveterans.org.uk
Cyfeirlyfr Cwnsela
Cyfeirlyfr o gwnselwyr a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cwnsela yn yr ardal leol.
Gwefan: www.counselling-directory.org.uk
Mind
Mae Mind yn helpu i gefnogi a rhoi gwybodaeth i bobl yn y gymuned leol sy'n dioddef problemau iechyd meddwl, neu a allai fod yn berthnasau, gofalwyr neu ffrindiau i rywun sydd mewn gofid emosiynol.
Ffôn: 01495 759272
Gwefan: www.torfaenmind.co.uk
Combat Stress
Mae Combat Stress yn gweithio gyda Chyn-filwyr y Lluoedd Arfog Prydeinig, ac aelodau'r Lluoedd Wrth Gefn, trwy driniaeth a chymorth effeithiol ar gyfer problemau iechyd meddwl.
Gwefan: www.combatstress.org.uk
Doctoriaid/Meddygon Teulu ac Ysbytai
Manylion Doctoriaid/Meddygon Teulu ac Ysbytai yn Nhorfaen
Hire a Hero
Elusen milwrol sy'n gweithio gyda holl bersonél gyn-filwrol yn gwneud beth bynnag y mae'n ei gymryd am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i ddarparu cymorth unigol wrth drawsnewid o wasanaeth i fywyd sifil.
Mae Hire a Hero yn gweithio mewn partneriaethau gyda sefydliadau eraill i nodi a darparu'r cymorth gorau ar gyfer y rhai sy'n gadael y gwasanaeth. Mae hyn yn cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant , tai a chefnogaeth i’r anafedig.
Wedi'i leoli yn Mamhilad , mae Hire a Hero yn anelu at wasanaethu’r rhai sydd wedi ein gwasanaethu ni ac yn ymroddedig i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn Nhorfaen.
Ebost: info@hireaherouk.org
Ffôn: 01495761084
Diwygiwyd Diwethaf: 13/09/2022
Nôl i’r Brig