Caffi Atgyweirio
Mae’r Caffi Atgyweirio ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn rhywle i drigolion fynd ag eitemau bach i’w trwsio.
Gall ymwelwyr deimlo’n dda am iddyn nhw wneud cyfraniad cadarnhaol i’r amgylchedd trwy drwsio eitemau a fyddai fel arfer yn cael eu taflu.
Ble mae’r Caffi Atgyweirio?
Cewch hyd i’r caffi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn agos at y gorsafoedd bysiau uchaf.
Beth yw’r amserau agor?
Dydd Mercher a Dydd Iau - 9.30am - 12.30pm
Pa fath o eitemau gallaf i gymryd i gael eu hatgyweirio?
Unrhyw eitem fach yr ydych am gario fel glanhawr, tostiwr, tegell, addurniadau, addurniadau pren, gemau etc.
Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr?
Ydym, mae Wastesavers sy’n cynnal y caffi mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr. Cysylltwch ag Ian Pearce ar 01633 281287 os oes diddordeb gyda chi.
Pa fath o brisiau sy’n arferol?
Gall unrhyw eitemau y mae modd eu trwsio gael eu trwsio am ddim. Serch hynny, efallai bydd achosion pan fydd angen i rywun brynu darn er mwyn i’r tîm drwsio eu heitemau. Rhoddir cyngor i ddweud a yw’n werth yr arian prynu unrhyw ddarnau y mae eu hangen.
Pwy sy’n gyfrifol am y caffi?
Wastesavers sy’n cynnal y siop mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Allaf i ollwng pethau yn uniongyrchol i’r caffi?
Gallwch, serch hynny, mae’n well gan staff bod trigolion yn aros wrth iddyn nhw asesu’r eitem yn gyntaf. Os ydyn nhw’n credu bod modd ei thrwsio, gall trigolion adael yr eitem, ond os nad oes modd trwsio yna gall y person fynd â’r eitem gyda nhw i’w hailgylchu.
A allaf i gerdded i’r caffi?
Mae’r caffi yng nghanol tref Pont-y-pŵl felly gall trigolion gerdded at y farchnad dan do os ydyn nhw’n byw’n lleol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu yrru i ymweld â’r caffi.
Oes mynediad i’r anabl i’r siop?
Oes, mae mynediad a pharcio i bobl anabl.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2023
Nôl i’r Brig