Blog - Grymuso ieuenctid
Mae pobl ifanc wedi bod ar y blaen yn y ddadl ar newid yn yr hinsawdd mewn blynyddoedd diweddar. Mae un o breswylwyr Torfaen Darcey Roberts-Waite, sy’n astudio Lefel A mewn Bioleg, Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth yr Amgylchedd, yn esbonio pam ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn gweithredu.
Siaradais yn ddiweddar gyda’r Athro Dave Waltham, athro yng Ngwyddorau’r Ddaear ym Mhrifysgol Royal Holloway, yn Llundain, o gynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow.
Roedd yn optimistaidd ynglŷn â’r gynhadledd ac yn credu efallai ei fod yn drobwynt o ran gweithredu ar yr hinsawdd
Roedd yn dda clywed pa mor obeithiol yr oedd o ran y dyfodol, yn enwedig o ystyried y penawdau negyddol, gofidus ac erchyll sydd wedi dod yn llawer rhy gyffredin.
Er ei bod yn bwysig aros yn obeithiol, nid yw gobaith heb weithredu yn golygu unrhyw beth – ynghyd â chamau gweithredu heb rymuso. I gamau gael eu gweithredu, rhaid i rymuso gael rôl allweddol. Grymuso, yn fy marn i, yw cydraddoldeb a’r rhyddid i ddewis beth sydd yn ein dyfodol.
Mae Greta Thunberg yn grymuso. Mynychais Streic Ieuenctid dros yr Hinsawdd ym Mryste yn gynnar y llynedd, ychydig cyn y pandemig. Tybir bod rhyw 30,000 o bobl yn bresennol, pob un wedi eu grymuso i gymryd camau gweithredu, cadw’n obeithiol a gwneud newid ystyrlon.
Mae grymuso pobl ifanc ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi bod yn ffocws rhaglen llywyddiaeth COP26 – materion nad ydynt erioed wedi bod yn bwysicach o ran goresgyn yr argyfwng hinsawdd.
Yn y pen draw, pan fydd COP26 drosodd a phan fydd holl arweinwyr y byd yn neidio ar eu hawyren i fynd adref, y genhedlaeth o bobl ifanc heddiw fydd yn gorfod curo’r heriau a achosir gan y corfforaethau mawrion. Ni fydd y rhai a fydd yn gorfod addasu i blaned galed a diobaith.
Ond ni welwn newid ar lwyfan y byd nes byddwn yn gweld newid ar lawr gwlad.
Ar raddfa leol, un ffordd o sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ein ple daer yw drwy gysylltu gyda’n AS lleol Nick Thomas-Symonds ac Aelod y Senedd Lynne Neagle. Ebostiwch nhw, mynychwch y cymorthfeydd, sefydlwch berthynas gyda nhw a gweithio gyda nhw i gael cynnydd a chyflawni gweithredu gwirioneddol ar yr hinsawdd.
Oherwydd nid nawr yw’r amser i siarad. Nid yw geiriau’n golygu unrhyw beth heb weithredu. Nawr yw’r amser i weithredu, i rymuso, i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed cyn y bydd yn rhy hwyr.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/11/2021
Nôl i’r Brig