Argyfwng natur a newid yn yr hinsawdd
Newid yn yr Hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac mae'n arwain at heriau byd-eang difrifol fel tymereddau yn codi dros y byd, patrymau tywydd yn newid, lefelau'r môr yn codi a mwy o dywydd eithafol.
Mae'r rhagolygon yn rhagweld hafau poethach, sychach a gaeafau mwynach a gwlypach, a digwyddiadau mwy eithafol o ran y tywydd. Efallai bod y byd y bydd ein hwyrion yn tyfu i fyny ynddo yn wahanol iawn i'n byd ni, ond y newyddion da yw y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wneud y dyfodol hwnnw'n bositif.
Argyfwng natur
Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad mawr i natur ac mae llawer o'r arferion anghynaladwy sy'n peri i'r hinsawdd newid hefyd yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth.
Mae pwysau fel newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd, cynefinoedd yn chwalu a rheolaeth wael i gyd yn fygythiadau i fioamrywiaeth ac yn peri risg i les ein cymunedau yn y tymor hir. Gelwir hyn yn argyfwng natur.
Ein hargyfwng hinsawdd
Yn 2019, cyhoeddodd Cyngor Torfaen argyfwng hinsawdd ac ymrwymodd i ddod yn carbon sero-net erbyn 2030. Ers hynny, mae'r Cyngor hefyd wedi datgan argyfwng natur i gydnabod y bygythiad difrifol o ddirywio bioamrywiaeth.
Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau I leihau ein hallyriadau carbon.
Targedau hinsawdd
Mae ein cynllun gweithredu yn nodi ein dull o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 a sut y byddwn yn amddiffyn ac yn gwella adnoddau naturiol gwerthfawr Torfaen a'r fioamrywiaeth y maent yn ei chefnogi.
Ond er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn mae angen i Dorfaen gyfan leihau ei ôl troed carbon a chymryd rhan mewn cefnogi natur hefyd.
Gweithredu er lles yr hinsawdd a natur - cymerwch ran
Rydyn ni'n gweithredu ond mae gan ein dinasyddion, sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyd rannau pwysig i'w chwarae.
Ymunwch â ni i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.
Diwygiwyd Diwethaf: 06/07/2022
Nôl i’r Brig