Amddiffyn ac adfer natur
Nid oes unrhyw lwybr i garbon sero-net heb amddiffyn ac adfer natur, fel y mae arweinydd y tîm ecoleg a thirwedd Steve Williams yn ei esbonio yn yr ail o’n cyfres o flogiau argyfwng hinsawdd.
Wrth fynd o gwmpas ein bywydau prysur, gall newid yn yr hinsawdd a cholli natur deimlo fel cysyniadau haniaethol. Ond mae Adroddiad diweddar Cyflwr Natur Gwent, gan Brosiect Gwent Gydnerth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu’r dystiolaeth.
Er enghraifft, mae’r cornicyll, a oedd yn gyffredin yn Nhorfaen, bellach yn aderyn prin. Ac mae dolydd iseldir llawn blodau gwyllt nawr wedi eu cyfyngu i ychydig o leiniau prin.
Mae deall gwerth natur a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig i gymdeithas wedi dod yn bell iawn yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd statudol nawr i amddiffyn a gwella natur ac ecosystemau.
Ond mae cymryd penderfyniadau cynaliadwy yn gofyn am agwedd strategol. Mae Cyngor Torfaen wedi cyflwyno ei Strategaeth Seilwaith gwyrdd gyntaf, ynghyd â map o’n hasedau gwyrdd, i helpu i fwydo gwybodaeth i brosiectau a chynlluniau megis Cynllun newydd Datblygu Lleol Torfaen.
Mae gan Dorfaen y canopi coed trefol mwyaf yng Nghymru. Mae coed aeddfed yn amsugno llawer o garbon, yn cyfrannu tuag at liniaru llifogydd ac yn dda i fioamrywiaeth. Mae Strategaeth Goed newydd yn anelu at ddwyn at ei gilydd ein cyfrifoldebau mewn perthynas â choed, eu rheolaeth a’u gwella.
Ond nid mater o bolisïau, cynlluniau a strategaethau yw hyn yn unig, mae’n golygu troi’r rhain yn gamau cadarnhaol.
Enghraifft o hyn yw Prosiect Ucheldiroedd Cydnerth De-ddwyrain Cymru, sydd wedi gweithio gyda phartneriaid i gyflawni gweithgareddau rheoli tir ymarferol, megis y prosiect at Fynydd Maen, uwchben Cwmbrân, i adfer cors fawn i wneud y mwyaf o’i gallu i storio carbon a dal dŵr.
Enghraifft arall yw cynllun Gwent Gydnerth, sydd wedi rhoi adnoddau i brosiect lles i annog staff y GIG a staff gofal cymdeithasol i gofnodi bywyd gwyllt lleol a chreu cynefinoedd corstiroedd, ac un arall i gynyddu plannu coed.
A thrwy’r prosiect Mannau Lleol ar gyfer Natur, mae Cyngor Torfaen wedi cyflwyno rhaglen o reoli glaswelltir cynaliadwy i annog natur a thynnu carbon o’r atmosffer.
Drwy ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, mae’r cyngor wedi cydnabod y sefyllfa. Nawr, mae’n fater i bawb wneud cyfraniad.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2022
Nôl i’r Brig