Cynaliadwyedd Torfaen
Caiff datblygu cynaliadwy ei ddiffinio'n gyffredin fel "datblygu sy'n bodloni anghenion heddiw, heb niweidio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol". Mae'n ymagwedd at wneud penderfyniadau sy'n ceisio sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod, trwy gydbwyso'r pwysau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y mae ein cymdeithas a'r blaned yn eu hwynebu.
Fel un o lofnodwyr Siarter Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymroddedig i wneud datblygu cynaliadwy yn egwyddor ganolog yn ein gweithgareddau.
Mae nodau polisi datblygu cynaliadwy'r Cyngor fel a ganlyn:
- cynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb
- diogelu'r amgylchedd yn effeithiol
- defnyddio adnoddau naturiol yn ddoeth
- cynnal lefelau uchel a sefydlog o dwf economaidd a chyflogaeth
Mae Newid yn Raddol, arwyddeiriau cynaliadwyedd Torfaen, yn dangos sut, trwy wneud mân addasiadau i'r ffordd rydym yn byw, y gall pawb helpu i leihau'r defnydd o adnoddau'r Ddaear a byw bywydau hapusach ac iachach.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/09/2024
Nôl i’r Brig