Cofrestru Safleoedd Bwyd
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sy'n rhedeg busnesau bwyd ac sy'n dechrau busnes bwyd newydd wneud cais i gofrestru gyda'r awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu. Mae hyn yn caniatáu i'r awdurdod lleol roi sgôr risg i'r safle a chynnal arolygiad cychwynnol os oes angen.
Mae rhai mathau o safleoedd bwyd, sef gweithgynhyrchwyr cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid, fel llaethdai, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion cig neu farchnadoedd cyfanwerthu pysgod yn gyffredinol, yn destun rheoliadau'n ymwneud â chynhyrchion penodol. Mae angen i'r safleoedd hyn gael eu cymeradwyo gan eu hawdurdod lleol yn hytrach na'u cofrestru gyda nhw.
Os oes gennych gŵyn am fwyd a brynoch oddi wrth fusnes bwyd, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - mae'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd yn barod i amnewid y bwyd neu roi ad-daliad i chi.
Rydym yn ymchwilio i gwynion ynghylch bwyd a gallwn weithredu lle bo'r cwynion hynny wedi codi oherwydd hylendid bwyd gwael ac ati. Os ydych yn amau achos o'r fath, mae cyngor ar wneud cwyn ynghylch bwyd i'w gael yn y fan hon.
Os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig, gall Citizen's Advice Consumer Service roi cyngor i chi hefyd. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
Os ydych yn pryderu am fusnes bwyd ac yn amau nad yw wedi'i gofrestru fel sy'n ofynnol neu nad yw'n cael ei gynnal yn gywir ac yn hylan, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig