Caffi ar y Stryd - Gwneud Cais am Drwydded
Caffi ar y Stryd
Crynodeb o'r Drwydded |
Mae Deddf Priffyrdd 1980, Adran 115 {fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982}, yn rhoi'r pŵer i'r Cyngor gyhoeddi trwyddedau ar gyfer "darparu, cynnal a gweithredu cyfleusterau ar gyfer lluniaeth ar y briffordd" - h.y. caffis ar y stryd.
Mae caffis ar y stryd yn ychwanegu at liw a naws trefi yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod y caffis hyn o safon dda a'u bod wedi'u cynllunio'n gywir, lle cânt eu sefydlu. Bydd y Cyngor yn barnu pob cais am drwydded yn ôl ei rinweddau unigol, gan ystyried ffactorau megis:
- a yw'r lleoliad mewn ardal i gerddwyr yn unig ai peidio
- faint o gerbydau a cherddwyr sy'n mynd heibio'r lleoliad hwnnw
- lled y palmant
- dodrefn stryd sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal
- yr angen am sicrhau nad yw cerddwyr yn cael eu rhwystro rhag mynd heibio
- yr angen am sicrhau nad oes rhwystr fyth i'r gwasanaethau brys
Mae'n rhaid i fusnes gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n werth £2 filiwn o leiaf, dangos parch dyledus i iechyd a diogelwch y cyhoedd a dangos gweithdrefnau cynnal a chadw da.
Am wybodaeth bellach, lawrlwythwch gopi o'r Arweiniad ar gyfer Trwydded Caffi ar y Stryd .
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Bydd y Cyngor yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer gosod byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffis, tafarndai a safleoedd tebyg at ddiben gweini lluniaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau ehangu mewn ffordd gost effeithiol, gan gynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid.
Mae deddfwriaeth arall yn rheoli trwyddedu stondinau ar gyfer masnachu ar y stryd a safleoedd sy'n gwerthu alcohol, a chaiff hyn ei weinyddu ar wahân gan Is-adran Drwyddedu'r Cyngor. Felly, bydd angen i safleoedd sydd â thrwydded i werthu alcohol ac sydd hefyd yn dymuno rhoi byrddau a chadeiriau ar balmant neu ardal i gerddwyr yn unig y tu allan i safle wneud cais am drwydded ychwanegol, fel y'i nodir yn y polisi hwn.
|
Ffïoedd |
Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am wneud cais am drwydded caffi ar y stryd. Fodd bynnag, codir tâl blynyddol o £10 y bwrdd a £10 y gadair (codir tâl pro rata ar gyfer meinciau, yn ôl nifer y mannau eistedd), i dalu am gostau gweinyddu.
|
Proses Gwerthuso Cais |
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i brosesu eich cais mor gyflym â phosibl. Oherwydd natur y drwydded hon a buddiant trydydd parti, ein nod yw rhoi trwyddedau o fewn 30 diwrnod gwaith o gyflwyno'r cais. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar dderbyn yr holl waith papur gofynnol. Mae trwyddedau caffis ar y stryd yn ddilys am 12 mis. Os ydych yn dymuno ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod 12 mis cychwynnol, mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o gyflwyno cais cyflawn.
|
Gwneud cais ar-lein |
Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am drwydded i ddarparu caderiau a byrddauar y briffordd, gallwch lawrlwytho'r Cais am Drwyedd i darparu byrddau ar y prif ffordd o'r fan hon.
|
Camau Unioni yn achos Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaethau Cymdogaeth
Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
NP4 0LS
Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaethau Cymdogaeth
Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
NP4 0LS
Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.
|
Cwynion gan Ddefnyddwyr |
Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Adran berthnasol eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU .
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 14/09/2022
Nôl i’r Brig