Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cofrestru Safleoedd Bwyd
Beth yw cofrestru safleoedd bwyd?
Mae cofrestru sefydliad busnes a ddefnyddir fel safle bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad, cerbydau dosbarthu a cherbydau symudol eraill) yn ofyniad cyfreithiol. Bydd cofrestru yn caniatáu i ni gadw rhestr gyfredol o'r holl safleoedd hynny yn ein hardal fel y gallwn ymweld â nhw pan fo angen. Bydd amlder yr ymweliadau yn dibynnu ar y math o safle.
Pwy sydd angen cofrestru?
Os ydych yn rhedeg busnes bwyd, rhaid i chi ddweud wrthym (neu drefnu bod rhywun arall yn dweud wrthym) am unrhyw safleoedd a ddefnyddiwch i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd.
Mae safleoedd bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, ffreuturiau staff, ceginoedd mewn swyddfeydd, warysau, sefydliadau gwely a brecwast, cerbydau dosbarthu, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnad a stondinau eraill, faniau gwerthu cŵn poeth a hufen iâ, cyfleusterau cymunedol fel clybiau cinio ac yn y blaen.
Os byddwch yn defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes a hynny'n gysylltiedig â safle parhaol fel siop neu warws, mae angen i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol sawl cerbyd sydd gennych yn unig. Ni fydd angen i chi gofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un neu fwy o gerbydau ond dim safle parhaol, rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod ymhle y mae'r rhain yn cael eu cadw fel arfer. Rhaid i unrhyw un sy'n dechrau busnes bwyd newydd gofrestru gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu.
A oes unrhyw eithriadau?
Mae rhai gweithgareddau bwyd wedi'u heithrio o gael eu cofrestru, gan nad yw Rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd yn berthnasol iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Tyfu neu gynhyrchu bwyd at ddefnydd preifat yn y cartref, er enghraifft cadw ieir i gyflenwi wyau i'ch teulu eich hun
- Paratoi, trafod neu storio bwyd i'w ddefnyddio'n breifat yn y cartref
Os ydych yn ansicr a oes angen i chi gofrestru ai peidio, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Sut ydw i'n cofrestru?
Trwy lenwi ffurflen syml ar lein. Ni ellir gwrthod cofrestru ac ni chodir tâl.
Rhaid i chi wneud cais i'r awdurdod lleol cywir. Os caiff ei anfon at yr awdurdod anghywir, ni fydd eich cais yn dod i rym nes iddo gael ei dderbyn yn y lle iawn.
Os ydych yn defnyddio safleoedd mewn ardaloedd mwy nag un awdurdod lleol, rhaid i chi gofrestru gyda phob awdurdod ar wahân.
Beth sy'n digwydd os byddaf i'n cau'r busnes bwyd neu'n newid fy ffordd o weithredu?
Mae'n rhaid i bobl sy'n rhedeg busnesau bwyd sicrhau bod gwybodaeth gyfredol gan yr awdurdod lleol priodol am eu busnesau bwyd, a rhaid iddynt roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newidiadau o bwys mewn gweithgarwch, neu gau'r busnes. Dylid cyflwyno hysbysiadau o'r fath yn ysgrifenedig a chyn i'r newidiadau ddigwydd, yn ddelfrydol, ac ym mhob achos dylid eu cyflwyno ddim hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i'r newid ddigwydd.
Os yw'r sawl sy'n rhedeg sefydliad busnes bwyd yn newid, dylai gweithredwr newydd y busnes hefyd roi gwybod am y newid a bydd angen iddo gofrestru'r busnes yn ei enw ei hun.
Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth a roddaf ar y ffurflen?
Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol gadw rhestr o'r busnesau bwyd sydd wedi'u cofrestru gydag ef. Mae'r rhestr hon ar gael i'r cyhoedd ei gweld ar amseroedd rhesymol. Mae'r rhestr yn cynnwys y wybodaeth ganlynol am bob busnes bwyd:
- Enw'r busnes bwyd
- Cyfeiriad y busnes bwyd
- Manylion a natur y busnes bwyd
Gall yr Awdurdod Lleol roi neu anfon copi o'r rhestr neu unrhyw gofnod arno i unrhyw unigolyn sy'n gwneud cais am wybodaeth o'r fath. Hefyd, mae'n ofynnol i ni roi gwybodaeth fanwl i gyrff gorfodi eraill, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, os gofynnir amdani - a gallai hyn gynnwys data a gwybodaeth nad yw'n ymddangos ar ein cofrestr gyhoeddus.
Rhaid i'r Awdurdod Lleol roi ystyriaeth briodol i Ddeddf Diogelu Data 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth y mae'n ei chadw.
Beth os bydd angen i'm safle bwyd gael ei gymeradwyo yn hytrach na'i gofrestru?
Mae rhai mathau o safleoedd bwyd, sef gweithgynhyrchwyr cynhyrchion sy'n deillio o anfeiliaid, fel llaethdai, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion cig neu farchnadoedd cyfanwerthu pysgod yn gyffredinol, yn destun cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer eu safleoedd. Mae hyn yn ofynnol o dan Gyfarwyddeb 853/2004 y Gymuned Ewropeaidd.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig