Cofrestru Safleoedd Bwyd - Gwneud Cais am Drwydded
Cofrestru Safleoedd Bwyd
Crynodeb o'r Drwydded |
I storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar safle, mae angen i chi gofrestru gyda'r awdurdod lleol. Mae safleoedd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturiau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd.
Mae'n bosibl y bydd angen i rai gweithgynhyrchwyr sy'n trafod cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu'r Gwasanaeth Hylendid Cig, yn hytrach na'u cofrestru. Os nad ydych yn siwr a oes angen i'ch busnes gael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.
|
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith |
Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ar Hylendid Bwydydd, Erthygl 6(2)
|
Sut i ymgeisio |
Os ydych chi am gofrestru safle bwyd, ewch i dudalen Cofrestru Busnes Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n cynnig proses ar lein. Byddant yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei hanfon atom.
Os na fedrwch chi gwblhau’r broses hon ar lein, cysylltwch â Cyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu businessdirect@torfaen.gov.uk a gallwn eich helpu.
|
Ffïoedd ymgeisio |
Nid oes tâl am wneud cais i gofrestru safle bwyd.
|
Y broses ymgeisio |
Ar y ffurflen gofrestru, rhaid i chi roi tic ymhob blwch sy'n berthnasol i'ch busnes, ateb yr holl gwestiynau a rhoi'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani. Dylai busnesau tymhorol sy'n gweithredu am gyfnod penodol bob blwyddyn roi dyddiadau y byddant ar agor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau bydd eich awdurdod lleol yn eich helpu. Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth y gwyddoch ei bod yn ffug.
Rhaid anfon y ffurflen gofrestru i'r awdurdod lleol y mae'r safle wedi'i leoli ynddo. Os anfonir y ffurflen i'r cyfeiriad anghywir, ni ddaw eich cais i rym hyd nes bydd yn cyrraedd y lleoliad cywir. Os byddwch yn defnyddio safleoedd mewn ardaloedd mwy nag un awdurdod lleol, rhaid i chi gofrestru gyda phob awdurdod ar wahân.
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig i'r awdurdod cywir.
|
Apeliadau a Chwynion |
Gan fod cofrestru yn awtomatig, nid oes gweithdrefn apelio.
Os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol, dylech ddilyn gweithdrefn gwyno'r awdurdod.
|
Cymdeithasau Masnach |
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig