Cau Hanbury Road

Bydd rhan o Hanbury Road, yng nghanol tref Pont-y-pŵl, ar gau i'r ddau gyfeiriad, o ddydd Llun 10 Chwefror, am wyth wythnos, gan gynnwys penwythnosau. 

Mae'r ffordd ar gau dros dro rhwng cylchfan Clarence Corner a Glantorvaen Road i alluogi Dŵr Cymru i wneud gwelliannau i'r rhwydwaith carthffosiaeth. 

Bydd mynediad i breswylwyr sy'n byw ar Hanbury Road ac ar strydoedd oddi ar Hanbury Road, busnesau a cherbydau'r gwasanaethau brys. Gofynnir i fusnesau gyfeirio cwsmeriaid i faes parcio cyhoeddus gerllaw, er mwyn lleihau traffig trwy'r parth sydd ar gau. 

Bydd toiledau Hanbury Road ac arosfannau bysiau neuadd y dref hefyd ar gau yn ystod y gwaith. 

Bydd derbynfa’r Ganolfan Ddinesig, gofal cwsmeriaid a llyfrgell Pont-y-pŵl yn dal i fod ar agor.

Rydym yn deall y bydd y cau dros dro’n amharu ar ddisgyblion ond doedd dim modd i ni aros tan wyliau’r haf. Rydym ni wedi gorfod gweithio gyda rhaglen waith Dŵr Cymru ac ni fydd arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar ôl Mawrth.

Dargyfeirio traffig 

Bydd gwyriad ar hyd yr A4043. Gweler y cynllun rheoli traffig. Sylwer, disgwylir oedi felly cynlluniwch eich taith ymlaen llaw. 

Mynediad i gerddwyr 

Bydd mynediad i gerddwyr ar hyd llwybr troed y tu ôl i'r Ganolfan Ddinesig a'r Gerddi Eidalaidd. 

Nid yw'r llwybrau'n addas i bobl ag anawsterau symudedd neu gadeiriau olwyn. Ond, bydd cleifion yn dal i allu mynd at y meddygon a'r deintyddion cyfagos mewn car a thacsi. Am ragor o wybodaeth am wasanaethau bws, gweler isod.

Bysiau gwasanaeth 

Bydd arosfannau bysiau neuadd y dref ar gau yn ystod y gwaith. I weld manylion y newidiadau i’r gwasanaethau bysiau, ewch i wefan Stagecoach, lawrlwythwch ap Stagecoach neu dilynwch @StagecoachWales ar X i gael diweddariadau byw. Gallwch hefyd fynd i wefan Phil Anslow.

Cludiant ysgol 

Mae ein tîm cludiant i’r ysgol yn dod i gyswllt ag ysgolion y mae’r trefniadau i gau’r ffordd yn effeithio arnynt. O ddydd Iau Chwefror 13, bydd gwasanaeth D Ysgol Gymraeg Gwynllyw, o Derfynfa Varteg, a gwasanaeth G, o’r Forgeside Inn, yn dechrau 15 munud ynghynt.

Meysydd parcio 

Bydd holl feysydd parcio canol y dref yn dal i fod ar agor, gan gynnwys maes parcio aml-lawr Ffordd Glantorvaen, a meysydd parcio Trosnant Street, Clarence Road, Old Mill ac Glan yr Afon. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.torfaen.gov.uk/ParkingInPontypool  

Toiledau 

Bydd toiledau cyhoeddus Hanbury Road ar gau yn ystod y gwaith. Mae cyfleusterau toiledau eraill ar gael ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Parc Pont-y-pŵl a Chanolfan Hamdden Pont-y-pŵl.  Rhagor o wybodaeth am doiledau sydd ar gael i'r cyhoedd yn Nhorfaen.

Rhagor o wybodaeth 

I gael gwybodaeth am y gwaith, cysylltwch â Dwr Cymru Welsh Water - 0800 917 2652 cyfeiriad DS/KA/HanburyRoad/270125

 Os oes gennych gwestiynau am gau'r ffordd, cysylltwch â HTE.correspondence@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/02/2025 Nôl i’r Brig