Trwydded Bargodiadau dros Briffyrdd
Trwydded Ymestyniad dros Briffordd
Crynodeb o'r Drwydded |
Os hoffech adeiladu neu ymestyn adeilad dros neu ar y briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch. Sylwer y gall priffordd gynnwys ffyrdd, palmentydd ac ymylon ffordd. Gallai'r cyfarpar preifat gael ei osod dros dro neu'n barhaol. Mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys llinell ffôn breifat sy'n ymestyn dros stryd, rhwng adeiladau, neu ganopi bychan ar adeilad. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrin â'r math hwn o drwydded o dan Adran 178 Deddf Priffyrdd 1980. Ymdrinnir ag ymestyniadau mawr o adeiladau, h.y. balconïau, canopïau strwythurol neu fargodion cyffredinol ar adeiladau, o dan Adran 177 Deddf Priffyrdd 1980. Hefyd, yn ogystal â chael caniatâd cynllunio, rhaid cael trwydded i adeiladu seler newydd sydd o dan y ffordd gerbydau neu'r ffordd droed, ac ymdrinnir â hyn o dan Adran 179 Deddf Priffyrdd 1980.
|
Meini Prawf Cymhwysedd |
Rhaid i'r cais gael ei wneud gan berchennog yr ymestyniad arfaethedig a/neu'r tir y mae'r ymestyniad ynghlwm wrtho.
Bydd angen i'r ymgeisydd ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a osodir ar ddeiliad trwydded.
|
Ffïoedd |
Rhaid talu ffïoedd a bydd amodau ynghlwm.
|
Proses Gwerthuso Cais |
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i brosesu eich cais mor gyflym â phosibl. Oherwydd natur y drwydded hon a buddiant trydydd parti, ein nod fydd caniatáu trwyddedau o fewn 30 diwrnod gwaith o ddyddiad y cais. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar gael yr holl ddogfennau a chynlluniau gofynnol.
Y broses werthuso:
- Rhaid derbyn y taliad ar gyfer y cais ymlaen llaw, cyn asesu
- Caiff y cais ei ddilysu i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ef/hi yw perchennog yr ymestyniad a'i fod/bod yn cytuno i amodau'r drwydded
- Caiff y cynnig ei adolygu a rhoddir ystyriaeth i opsiynau eraill, yr effaith ar y briffordd a'r risg bosibl i seilwaith y briffordd ac i'r cyhoedd
- Bydd tystiolaeth o gytundebau trydydd parti'n cael ei hadolygu os yw'n berthnasol
- Caiff y gosodiad a'r dull adeiladu arfaethedig eu hystyried
|
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? |
Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen brosesu eich cais cyn ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
|
Sut i ymgeisio |
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais o'r fan hon.
|
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Gwasanaethau Cymdogaeth Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd Ffordd Panteg New Inn Pont-y-pŵl NP4 0LS
Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i'w Lys Ynadon lleol.
|
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded |
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaethau Cymdogaeth
Is-adran y Rhwydwaith Priffyrdd
Ffordd Panteg
New Inn
Pont-y-pŵl
NP4 0LS
Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio i'w Lys Ynadon lleol.
|
Apeliadau a Chwynion |
Os oes gennych gŵyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Adran Berthnasol eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig