Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus
Gellir dargyfeirio, diddymu neu greu hawliau tramwy cyhoeddus trwy Orchmynion Llwybrau Cyhoeddus o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 neu Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Mae gan y Cyngor bŵer (dewisol) i wneud Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus (ond nid oes dyletswydd arnynt i wneud hynny). Gwneir y gorchmynion unwaith y bydd y Cyngor yn fodlon ei fod er budd y cyhoedd, y perchennog, y prydlesai neu feddiannydd y tir, a bod modd cynnal profion cyfreithiol perthnasol. Gwneir y Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus o dan Adrannau 25, 118 neu 119 Deddf Priffyrdd 1980.
Mae Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus a wneir gan y Cyngor o dan adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cyfrannu at newidiadau i hawliau tramwy cyhoeddus trwy alluogi gweithredu caniatâd cynllunio.
Isod, amlinellir y broses ar gyfer gorchmynion llwybrau cyhoeddus:
- Ymgeisio
- Ymgynghori
- Penderfyniad y Prif Swyddog
- Os caiff ei gymeradwyo, gwneir gorchymyn a'i hysbysebu
- Cyfnod gwrthwynebu (28 diwrnod o ddyddiad yr hysbyseb)
- Cadarnhau a hysbysebu gorchmynion diwrthwynebiad, anfon gorchmynion a wrthwynebir at Lywodraeth Cymru i gael penderfyniad
Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus Cyfredol
Diwygiwyd Diwethaf: 20/12/2024
Nôl i’r Brig