Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon 2019-2025

Mae’r Rhaglen Treftadaeth treflun yn ddull gweithredu drwy bartneriaeth, gwerth £1.9m sy’n anelu i wneud gwelliannau i amgylchedd hanesyddol adeiledig ardaloedd cadwraeth, ac ar yr un pryd, sicrhau bod yna ganlyniadau positif ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a’r cymunedau hynny sy’n ymgysylltu ag ef.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn arwain ar ran PTT Blaenafon i gyflawni’r Rhaglen sy’n bwriadu ehangu ar yr adfywio blaenorol er mwyn creu ffasâd hanesyddol parhaus neu wella’r ffasâd presennol ar hyd Broad Street i barhau â momentwm y buddsoddi mewn cadwraeth a wnaed yn flaenorol yn y dref. Bydd y PTT yn darparu cefnogaeth i’r sawl sydd yn berchen ar eiddo gyflawni gwelliannau ar sail treftadaeth a bydd o fudd mawr i’r Ardal Gadwraeth.

Mae Cynllun Gweithgaredd y PTT yn ceisio codi proffil y dref ymhlith pobl leol, gan newid eu canfyddiadau ynghylch yr hyn sydd gan y dref i’w gynnig. Daw gweithgareddau â chyfle i greu newid sylweddol fydd yn creu effaith barhaol ac adfywio diddordeb y gymuned leol yn y treflun a’i dreftadaeth ddiriaethol, unigryw. Mae'r Cynllun Gweithgaredd yn nodi'r pecyn o weithgareddau cymunedol sydd i'w cyflwyno trwy'r PTT sy'n anelu i ysbrydoli'r gymuned leol i ddysgu mwy am dreftadaeth eu treflun a rhoi cyfle i bobl leol ddysgu sgiliau newydd.

Mae'r Gronfa Gyffredin ar gyfer cyflwyno'r PTT yn cynnwys cyfraniadau gan:-

  • Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol;
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;
  • Cadw;
  • Cyngor Tref Blaenafon;

a

  • Pherchnogion Eiddo (Prosiectau Cyfalaf yn unig).

Oherwydd effaith Covid ar raglenni cyflenwi, ac mewn cytundeb â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon wedi’i hymestyn tan fis Rhagfyr 2025. Mae'r rhaglen gyfalaf bellach wedi'i dyrannu'n llawn, ac nid oes cyllid grant adeiladu pellach ar gael drwy'r Rhaglen hon.

I gael mwy o wybodaeth am Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon cysylltwch â  mair.sheen@torfaen.gov.uk  neu Ffôn: 01495 766198

Os ydych yn fusnes sydd angen cyngor neu gymorth busnes ehangach, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen  

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon
Tel: 01495 766198

Nôl i’r Brig