Cwmbrân y Dyfodol

Cynllun adfywio newydd i weld sut y dylid gwario grant Cynllun Cymdogaethau (Cynllun Tymor Hir i Drefi gynt) gwerth £20miliwn gan Lywodraeth y DU yw Cwmbrân y Dyfodol.

Cwmbran Futures LogoBydd yr arian yn cael ei ryddhau fesul cam dros gyfnod o 10 mlynedd, gan ddechrau yn 2026, a bydd yn canolbwyntio ar adfywio ardaloedd lleol yn seiliedig ar dri nod:

  • Lleoedd sy’n ffynnu
  • Cymunedau Cryfach
  • Adennill rheolaeth

Bydd y cynllun yn cynnwys canol y dref a’r ardaloedd cyfagos.

Map outlining the area covered by the Long Term Plan for Cwmbran Town

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu'r cynllun. 

Bydd gwybodaeth leol ynghyd â barn pobl leol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwmbrân yn llywio datblygiad y cynllun ac yn dylanwadu ar benderfyniadau ar sut i wario’r gronfa fuddsoddi gwerth £20m.

Yn ystod 2024 roedd cyfle i aelodau'r cyhoedd ddysgu mwy am brosiect Cwmbrân y Dyfodol, a dweud eu dweud am Gwmbrân drwy raglen o weithgareddau ymgysylltu cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cwmbrân. Gwnaed hyn drwy gyfres o weithdai, sesiynau galw heibio ac arolwg ar-lein.  

Cafwyd ymgysylltiad pellach rhwng 15fed Medi a 6ed Hydref 2025. Roedd cyfleoedd i’r cyhoedd roi eu barn a’u meddyliau ynglŷn â’r hyn sydd ei angen ar Gwmbrân yn cynnwys arolwg ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.

Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a’i gyflenwi gan Fwrdd Cymdogaeth Cwmbrân, a gafodd ei sefydlu i reoli'r prosiect. Bydd y Cyngor yn cefnogi’r bwrdd ac yn goruchwylio’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Llywodraeth y DU.

Mae'r bwrdd yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith y flwyddyn. Mae gwaith papur y Bwrdd, agendâu a chofnodion cyfarfodydd ar gael.

Gwneud cais am gyllid

Croesewir Mynegiant o Ddiddordeb gan ystod eang o sefydliadau a phartneriaethau sydd wedi ymrwymo i adfywio Cwmbrân dan arweiniad y  gymuned. Mae ymgeiswyr cymwys yn cynnwys:

  • Busnesau: Busnesau sector preifat, yn cynnwys mentrau masnachol a chymdeithasol, sy'n gallu dangos budd amlwg i’r gymuned.
  • Y Sector Cyhoeddus: Awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus fel iechyd, addysg a gwasanaethau brys.
  • Y Trydydd Sector: Sefydliadau dielw, elusennau, Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC), a grwpiau cymunedol sydd â phresenoldeb cryf yn lleol.
  • Cynghorau Tref a Chymuned: Cynghorau lleol sy’n gweithio i wella cymdogaethau a chefnogi blaenoriaethau cymunedol.
  • Partneriaethau Cydweithredol: Partneriaethau traws-sector sy'n cynnwys unrhyw gyfuniad o'r uchod, yn enwedig y rhai sy'n dwyn lleisiau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus, ac arbenigedd busnes ynghyd.

Bydd cam cyntaf y ceisiadau yn agor ar 25 Medi 2025 ac yn cau ar 10 Hydref 2025i'w hadolygu gan Fwrdd Cwmbrân y Dyfodol. Bydd ffurflenni Mynegi Diddordeb yn parhau i fod ar agor er mwyn cyflwyno ceisiadau’n barhaus.

Ewch i Ffurflen Mynegi Diddordeb Cwmbrân y Dyfodol am ragor o wybodaeth, ac i weld y ddogfen ganllaw a'r ffurflen Mynegi Diddordeb

Rhaglen Balchder Bro 

Ar 25 Medi 2025 cyhoeddodd Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU ei Rhaglen Balchder Bro, sy'n cynnig cyllid ychwanegol i gymunedau ar draws y DU, gan gynnwys Torfaen. Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen ar Pride in Place - GOV.UK

Bydd y Rhaglen Balchder Bro yn dod â'r rhaglen Cynllun ar gyfer Cymdogaethau o dan y strategaeth Balchder Bro drosfwaol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

 

Funded by UK Government Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 08/10/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cwmbrân y Dyfodol

Ffôn: 01633 648293

E-bost: CwmbranFutures@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig