Y British

View of the British with a jigsaw piece over layed

Ble mae’r British?

Mae’r British yn Nhalywaun, a dyma’r safle diwydiannol adfeiledig mwyaf sydd yn parhau i fodoli yn Ne-ddwyrain Cymru.

Prynwyd y safle 1,300 erw gan gyngor Torfaen yn 2016.

Cam 1 y Gwaith

Mae Cam 1 yn canolbwyntio ar yr ardal a elwir yn " Black Patch" a'r "hen waith haearn" i gael gwared ar y risgiau iechyd a diogelwch a achosir gan siafftiau a cheuffyrdd tanddaearol.

Mae hyn wedi cynnwys nodi'r strwythurau mwyaf peryglus a'u gwneud yn ddiogel, yn ogystal â chreu cwrs dŵr newydd.

Bydd y cwrs dŵr yn lleihau'r perygl o lifogydd ar yr wyneb yn yr ardal ac yn cynorthwyo bioamrywiaeth ar y safle. Bydd pwll newydd yn cael ei greu a bydd hwn yn cael ei gysylltu â chwrs dŵr newydd uwchben y ddaear a fydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar ddefnyddio cwlferi tanddaearol sy'n dirywio.

Cymeradwywyd cynlluniau gan gyngor Torfaen ar 27 Mawrth 2025 i ailgyfeirio cwrs dŵr nant Blaengafog, Castle Wood i'r de o Farm Road a chreu pwll i storio dŵr, gan ganiatáu’r gallu i reoli’r dŵr wyneb sy’n cael ei ollwng o’r safle i'r rhwydwaith cwlferi presennol yn well. Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys gwaith adfer a thirlunio cysylltiedig a gwaith i atgyweirio/adnewyddu'r cwlfer presennol.

Gallwch weld y cynlluniau ar Borth Cynllunio Torfaen.

Mae’r cam cyntaf dan sylw wedi cael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Artisit impression of the proposed sbove-ground open water channel on the Black Patch

Cytundeb Menter ar y Cyd

Ym mis Gorffennaf 2024, rhoddodd cynghorwyr eu sêl bendith i swyddogion ymrwymo i Gytundeb Datblygu sy'n rhwymol gyfreithiol gyda'r cwmni cymdeithasol Idris, i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu seilwaith ynni a defnyddio’r tir at ddibenion masnachol ar safle’r British.

Bydd y cytundeb yn sail i'r ffordd y bydd y cyngor ac Idris yn gweithio gyda'i gilydd, pe bai'r astudiaeth ddichonoldeb yn profi bod potensial am brosiect uchelgeisiol i gynhyrchu ynni gwyrdd.

Byddai'r astudiaeth yn cynnwys asesiad o wahanol ffynonellau ynni gwyrdd ar y safle, yn cynnwys ynni gwynt, haul a dŵr, a chyfleoedd cyflogaeth, yn ogystal â'r uchelgeisiau eraill.

 

European Agricultural Fund for Rural Development Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Prosiect y British

E-bost: thebritish@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig