Ardaloedd Cadwraeth
Ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw Ardal Gadwraeth. Ar hyn o bryd, mae chwe Ardal Gadwraeth yn Nhorfaen, sef Canol Tref Blaenafon, Canol Tref Pont-y-pŵl, Llantarnam, Cwmbrân Uchaf a Chwmafon a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu.
Dynododd y Cyngor bob un o'r Ardaloedd Cadwraeth i helpu i warchod a gwella ei chymeriad a'i golwg. Caiff pob ardal ei nodi a'i dynodi yn dilyn asesiad manwl o ansawdd yr ardal, gan gynnwys cyfraniad adeiladau allweddol unigol neu grwpiau ohonynt, coed, mannau agored a'r strydlun.
Mewn Ardaloedd Cadwraeth, mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i warchod a gwella cymeriad yr ardal. Mae dynodi Ardal Gadwraeth yn rhoi haen ychwanegol o reolaeth i'r Cyngor dros ddatblygu er mwyn sicrhau bod pob datblygiad yn gwella ac yn cyfoethogi ei chymeriad a'i golwg. Bydd y Cyngor yn ystyried ffurf, cynllun a manylion cynigion datblygu yn ofalus, ynghyd â'u heffaith debygol ar gymeriad Ardal Gadwraeth.
Gellir cael mapiau sy'n dangos ffiniau pob ardal gan Dîm Gweinyddu'r Adran Gynllunio ar 01633 647319 / 647321 / 647326 / 647324.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2022
Nôl i’r Brig