Rheoliadau Adeiladu
Os ydych yn berchennog tŷ ac yn bwriadu cael estyniad neu addasiad, efallai bydd angen arolwg rheoliadau adeiladu arnoch chi yn ogystal â chaniatâd cynllunio. Mae Caniatâd Cynllunio’n ymwneud a sut mae adeilad yn edrych, mae rheoliadau adeiladu yn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel yn strwythurol.
Mae cael gwaith adeiladu wedi ei gymeradwyo gan dîm rheolaeth adeiladu eich cyngor lleol yn helpu sicrhau bod y gwaith yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion safonau rheoliadau adeiladau yn ogystal ag yn eich diogelu rhag adeiladwyr gwael. Felly mynnwch eu cyngor cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.
Beth yw Rheoliadau Adeiladu?
Gwneir Rheoliadau Adeiladu yn Lloegr a Chymru o dan y Ddeddf Adeiladu 1984 ac maen nhw’n cael eu newid a’u diweddaru’n rheolaidd.
Mae Rheoliadau Adeiladu yn gosod isafbwynt safonau ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau er mwyn sicrhau diogelwch ac iechyd i bobl, gan gynnwys y rheiny ag anableddau yn neu o gwmpas yr adeiladau hynny ac i helpu arbed tanwydd ac ynni.
I helpu pobl i gydymffurfio â nhw mae’r Llywodraeth yn cynhyrchu Dogfennau Cymeradwy sy’n cynnig canllawiau ac yn dangos ffyrdd o gydymffurfio.
Does dim rhaid i chi ddilyn y canllaw’n union yn y rhan fwyaf o achosion ac yn aml gall bensaer, technegydd pensaernïol neu Beiriannydd Adeiladu awgrymu atebion eraill llawn mor dderbyniol a gaiff eu cytuno gyda’ch arolygwr rheoli adeiladu.
Gwyliwch y fideo sy’n esbonio beth yw rheoli adeiladu a sut mae’r rheoliadau busnes yn eich helpu
Beth sydd yn y Dogfennau Cymeradwy?
Caiff rhannau technegol y gwaith adeiladu eu disgrifio’n fanwl mewn cyfres o Ddogfennau Cymeradwy, sy’n cael eu cyhoeddi mewn dogfennau o A i P yn gymesur â gofynion y rheoliadau adeiladu.
Gallwch gael y Dogfennau Cymeradwy i gyd ar wefan Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC).
Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2023
Nôl i’r Brig