Sut ydw i'n gwneud cais am reoliadau adeiladu?
Mae yna sawl ffordd i wneud Cais Rheoliadau Adeiladu:
-
Ar-lein - Gallwch gyflwyno cais rheoliadau adeiladu ar y Porth Cynllunio
- E-bost - Bydd angen i chi lawr lwytho’r ffurflenni priodol a darparu un copi o’r cais a’r holl ddogfennau ategol. Ar ôl eu cwblhau gallwch e-bostio’r ceisiadau i buildingcontrol@torfaen.gov.uk
- Post - Bydd angen i chi lawr lwytho'r ffurflenni priodol a darparu un copi o'r cais a'r holl ddogfennau ategol. Gellir anfon y ceisiadau wedi'u cwblhau i: Rheoli Adeiladu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS.
- Ffôn - A fyddech cystal â ffonio 01633 647300 a gallwn gwblhau eich cais ar eich rhan. Mae’n bosib y bydd dal angen i chi e-bostio, postio neu alw heibio â’r holl ddogfennau ategol drwy ddefnyddio’r manylion uchod.
Gallwch ddefnyddio’n gorsaf weithio bwrpasol yn ein swyddfeydd yn Nhŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS rhwng 8:30-17:00 dydd Llun i ddydd Iau a 8:30-16:30 ar ddydd Gwener.
Nodyn Pwysig: Bydd ceisiadau drwy’r post neu e-bost yn cymryd mwy o amser na’r rhai ar-lein.
Os oes gennych unrhyw broblemau a fyddech cystal â ffonio eich tîm lleol ar 01633 647300 a byddant yn hapus i’w tywys drwy’r broses.
Eich Tîm Rheoli Adeiladu
Lee Redman - Arweinydd Tîm
Ffôn: 01633 647297 neu 07980 682320
E-bost: lee.redman@torfaen.gov.uk
Richard Duggan - Uwch Syrfëwr Rheoli Adeiladu (De)
Ffôn: 01633 648116 neu 07980 682321
E-bost: richard.duggan@torfaen.gov.uk
Gareth Morgan - Syrfëwr Rheoli Adeiladu (Gogledd)
Ffôn: 01633 647298 or 07980 682323
E-bost: gareth.morgan3@torfaen.gov.uk
Leanne Walters - Syrfëwr Rheoli Adeiladu Cynorthwyol
Ffôn: 01633 647300
E-bost:
leanne.walters@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 08/04/2024
Nôl i’r Brig