Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Medi 2023
Ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl yw’r ysgol ddiweddaraf i ennill Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach.
Ysgol Gynradd New Inn yw’r bedwaredd ysgol yn Nhorfaen i ennill y wobr, ochr yn ochr ag Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Gynradd Llanyrafon, yng Nghwmbrân.
Yr wythnos hon, aeth staff a disgyblion, gan gynnwys aelodau o grŵp Cenhadon Chwaraeon yr ysgol, i Ganolfan Ddinesig Cyngor Torfaen i dderbyn y wobr gerbron Cynghorwyr.
Meddai’r Pennaeth, Kate Prendergast: “Mae pob un yn Ysgol Gynradd New Inn mor falch o ennill y wobr hon ac mae’n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol.
“Roedden ni wedi llwyddo i ddangos amrywiaeth eang o weithgareddau a mentrau arloesol ac unigryw sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a’u teuluoedd ac sy’n gymorth i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.
"Mae iechyd a llesiant yn rhan hollbwysig o’n bywydau yn Ysgol Gynradd New Inn a gobeithiaf y bydd ein gwaith yn ysbrydoli eraill i ddarparu gweithgareddau newydd a chyffrous ar gyfer cymunedau eu hysgolion nhw.”
Cafodd Ysgol Gynradd New Inn gydnabyddiaeth gan Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru am ei rhaglen Cenhadon Chwaraeon, gwersi ffitrwydd a maeth, grwpiau sy’n cynrychioli disgyblion ac ardaloedd llesiant.
Roedd hefyd yn cydnabod cyraeddiadau blaenorol yr ysgol, gan gynnwys ei Gwobr Eco Blatinwm a Gwobr Arian Ymwybodol o Hawliau UNICEF.
Meddai Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Torfaen, Andrew Powles: “Dylai Ysgol Gynradd New Inn fod yn hynod o falch o ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach.
“Rhoddir y wobr hon i ysgolion sy’n gallu dangos buddsoddiad parhaus yn iechyd a llesiant pob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, yn rhieni a gofalwyr, yn aelodau o staff ac yn llywodraethwyr. Dyma gyrhaeddiad neilltuol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae Ysgol Gynradd New Inn wedi llwyddo i ddangos ei bod yn bodloni’r holl feini prawf ar gyfer y Wobr Ansawdd Genedlaethol, iechyd a llesiant meddyliol ac emosiynol plant a staff, datblygiad personol a chydberthnasau, diogelwch, hylendid, bwyd a ffitrwydd, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, a’r amgylchedd.
“Mae’r wobr hon yn cydnabod cydnerthedd yr ysgol gyfan, ei dyfalbarhad a’i hangerdd dros ddarparu llesiant neilltuol ac addysg gyflawn ar gyfer yr holl ddisgyblion.”