Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025
Mae Estyn wedi canmol staff a disgyblion Ysgol Gynradd Garnteg yn dilyn arolygiad diweddar.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, dywedodd yr arolygiaeth ysgolion fod gan y pennaeth a'r staff addysgu ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion ac maen nhw’n monitro cynnydd yn ofalus i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw feysydd i'w gwella.
Canmolwyd cwricwlwm yr ysgol, Climb to Sparkle am gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion, gan helpu pob disgybl i wneud cynnydd da mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod adnoddau'r ysgol y tu mewn a'r tu allan, gan gynnwys amgylchedd awyr agored cyfoethog sy'n cynnwys coetiroedd a gwlypdiroedd.
Dywedodd yr arolygwyr fod staff yn ddiwyd wrth fonitro presenoldeb ac maen nhw’n gweithio'n effeithiol i helpu'r disgyblion i gyd i fynychu bob dydd. Yn ystod tymor yr haf, rhoddwyd mwy na 60 tystysgrif ar gyfer presenoldeb 100 y cant a'r gwobrau gwelliant presenoldeb mwyaf i ddisgyblion.
Dywedodd y Pennaeth Sue Roche: "Rydym yn hynod falch o ymrwymiad diwyro llywodraethwyr, staff a disgyblion, rhieni a’r awdurdod lleol. Mae pob un wedi cefnogi ein timau arweinyddiaeth ysgolion, disgyblion a'r gymuned i rannu llwyddiant ein hadroddiad gan Estyn.
"Mae'r adroddiad yn cydnabod natur gynnes, gynhwysol ein hysgol, ymddygiad canmoladwy ein disgyblion a'r addysgu cryf ac effeithiol, ynghyd â'n Cwricwlwm Climb to Sparkle hynod lwyddiannus.
"Mae'r rhain yn sicrhau bod ein disgyblion yn cael darpariaeth ragorol i gymhwyso sgiliau craidd i alluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf iawn."
Ychwanegodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Garnteg am adroddiad ardderchog gan Estyn. Mae'r ysgol yn llusern yn eu cymuned leol."
Gwnaeth arolygwyr un argymhelliad - gwella sgiliau llafaredd Cymraeg disgyblion.