Llwyddiant yn yr arholiadau i ddisgyblion

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Awst 2025
CHS group

Casglodd dros 1,000 o ddisgyblion Blwyddyn 11 eu canlyniadau TGAU heddiw.

Yn eu plith roedd y disgyblion o Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Amelie Smith, a gafodd 9A* a 2A, a Milana Manzhai, a symudodd o Wcráin bedair blynedd yn ôl, a gafodd 1A* ac 8A.

Cafodd eu cyd-fyfyriwr, Dylan Stephens, 8A* a 3A ac mae'n astudio Lefel A mewn mathemateg, cyfrifiadureg a daearyddiaeth.

Yn Ysgol Croesyceiliog, fe fu dathlu mawr gan Prasidda Engden, a gafodd 12A* ac A, Conor, a gafodd 8A* a Rhagoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol a Madeleine, a gafodd 10A* a Rhagoriaeth.

Cafodd Matilda Thomas-Symonds, disgybl yn Ysgol Abersychan, 11A*, 1A, 1 Rhagoriaeth, yn ogystal â Gradd A mewn mathemateg ar lefel UG. Cafodd ei chyd-ddisgybl Poppy-Jayne Bevan 8A*, 3A ac 1B a Jack Marshall 6A*, 6A, ac 1 Rhagoriaeth.

Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant, Harry De-Gare Pitt, MiQi Lin a Kirsty Wang i gyd 8A* a 5A.

Roedd Mair Davies, a gafodd 11A*, Jack Lawrence, a gafodd 1A* a 7A, ac Aaron Wyper, a gafodd 7A*s a 3A, ymhlith y rhai a gasglodd eu canlyniadau yn Ysgol Gorllewin Mynwy.

Yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, enillodd 77 y cant o ddisgyblion raddau A*-C, gydag 17 y cant yn cael graddau A* ac A.

Casglodd o ddisgyblion o Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen eu canlyniadau arholiadau hefyd.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rwyf am longyfarch yr holl ddisgyblion ysgol uwchradd ar draws Torfaen sydd wedi cael eu canlyniadau arholiadau, yn wresog. Mae heddiw yn garreg filltir bwysig, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n falch o bopeth rydych chi wedi'i gyflawni.

"Diolch i'n staff gwych yn yr ysgolion a'n teuluoedd anhygoel sydd wedi sefyll gyda’n pobl ifanc yn llawn anogaeth a gofal. Mae eich ymroddiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

"Beth bynnag fydd eich cam nesaf - coleg, prentisiaeth, gwaith, neu rywbeth arall - rwy'n dymuno pob llwyddiant i chi."

Ar draws Cymru, cafodd 62.5 y cant o ddisgyblion raddau A* i C - ychydig yn uwch na'r llynedd.

O fis Medi, bydd yr arholiadau TGAU yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru newydd.



Diwygiwyd Diwethaf: 21/08/2025 Nôl i’r Brig