Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 22 Awst 2025
Mae mwy na 70 y cant o ddysgwyr sy’n oedolion wedi llwyddo yn eu TGAU Mathemateg a Saesneg (Iaith) yr wythnos hon.
Fe wnaeth cyfanswm o 41 o fyfyrwyr sefyll yr arholiadau yr haf hwn gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen - 27 Mathemateg a 14 Saesneg
Mae hyn yn cynnwys Rebecca Whaley, a gafodd B yn Saesneg (Iaith), Sianed Spiers, a gafodd A, a Teresa Green, a gafodd B mewn Mathemateg.
Dywedodd Rebecca, 37, o Gwmbrân, chwith yn y llun: “Mae pobl o’ch cwmpas sydd eisiau gwella o ddifri, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth.
“Dim ond rhoi fy llaw i fyny i'w wneud a chadw ati - dyna rywbeth rydw i'n falch ohono.”
Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr sy'n oedolion a lwyddodd yn eu TGAU yr wythnos hon. Mae'n cymryd dewrder i ddychwelyd i ddysgu, felly mae'n wych gweld cymaint yn cael y graddau yr oedden nhw’n anelu amdanynt.
"Mae llawer o fanteision i fuddsoddi yn eich addysg, o wella hyder i gynyddu’ch rhagolygon i gael swydd. Os ydych chi’n ystyried cofrestru ar gwrs, gallwch fod yn sicr bod gan Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen y staff a’r adnoddau i’ch helpu i lwyddo."
Fe wnaeth mwy na 1,000 o ddisgyblion uwchradd yn Nhorfaen gasglu eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon. Dyma sut wnaethon nhw.
Mae'r cyrsiau TGAU Saesneg a Mathemateg nesaf yn dechrau ym mis Medi.
Os nad ydych chi'n teimlo'n barod ar gyfer lefel TGAU, mae cyrsiau Sgiliau Hanfodol eraill ar gael. Cysylltwch ar essentialskills@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07811 942893.
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnal ystod eang o gyrsiau. Lawr lwythwch y llyfryn i gael mwy o wybodaeth.