Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Mai 2023
Children walking down a tree-lined footpath
Mae ysgolion meithrin, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant yn cael eu hannog i gymryd rhan am Wythnos gyntaf Cerdded i’r Meithrin Cyngor Torfaen.
Y bwriad yw cael cymaint o blant, rhieni a gwarchodwyr plant â phosibl i gerdded at eu lleoliadau gofal plant yr wythnos yma, fel rhan o Wythnos Cerdded i’r Ysgol.
Ymhlith y rheiny fydd yn cymryd rhan mae Jo Lane, o Joanne Lane Childminding yng Nghwmbrân, a ddywedodd: "Mae pob wythnos yn wythnos cerdded i’r meithrin i ni. Rydym yn ffodus o fod â llwybr diogel i’r ysgol ac mae yna lawer i’w weld a dysgu.
"Mae’r plant yn sylwi cymaint am y byd o’u cwmpas pan fyddwn ni’n cerdded i’r ysgol. Maen nhw’n sylwi ar y tymhorau’n newid, y dail yn cwmpo o’r coed yn yr hydref, cennin Pedr a chlychau’r gog yn dod yn y gwanwyn.
"Ac maen nhw i gyd yn gwybod bod cerdded yn ymarfer corff da ac mae’n cadw ein cyrff a’n meddyliau’n iach."
Syniad tîm Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Cyngor Torfaen sy’n gweithio gyda meithrinfeydd, Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant i hyrwyddo iechyd a lles, yw Wythnos Cerdded i’r Meithrin.
Dywedodd Ruth Harris, Swyddog Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy: "Mae yna gymaint o fanteision o annog plant i gerdded mwy. Mae’n rhad ac am ddim, mae’n hwyl, mae’n hyrwyddo bywyd iach ac yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.
"Mae’n well hefyd i’r amgylchedd ac yn helpu i leihau traffig o amgylch ysgolion a meithrinfeydd."
Mae’n hawdd cymryd rhan yn Wythnos Cerdded i’r Meithrin neu Gerdded i’r Ysgol – cynlluniwch eich ffordd ar gyfer cerdded, rhowch ddigon o amser i wneud ac edrychwch ar ragolygon y tywydd!
Gallwch ddysgu mwy am Wythnos Cerdded i’r Ysgol ar wefan Living Streets.
Gallwch rannu lluniau o’ch taith i’r meithrin neu’r ysgol ar dudalennau Facebook, Twitter neu Instagram Cyngor Torfaen – chwiliwch am @TorfaenCouncil neu @torfaencym a defnyddiwch yr hashnod #WythnosCerddedIrYsgol.
Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd am gynyddu faint maen nhw’n cerdded neu’n seiclo mewn teithiau byr. Dysgwch sut trwy ymweld â’r tudalennau teithio llesol yma.
I wybod mwy am leoliadau gofal plant yn Nhorfaen, ewch at y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.