Mwy o gyfleoedd i chwarae a chael hwyl

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Ionawr 2023
lee club

Mae Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen yn lansio chwe chlwb newydd gyda’r bwriad o helpu mwy o blant yn y fwrdeistref i gael mwy o hwyl!

Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnwys Clybiau Chwarae ac Ymwybyddiaeth Ofalgar sy’n cynnwys ioga a gweithgareddau’n seiliedig ar natur, yn ogystal â grŵp gofalwyr ifanc a dau glwb ar ôl ysgol.

Dywedodd Julien Davenne, rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig y gwasanaethau newydd yma a fydd yn cynyddu ymhellach y cyfleoedd sydd gan blant a phobl ifanc i chwarae yn Nhorfaen.

“Rydym yn falch iawn hefyd o fod yn cyflwyno clwb newydd ar ôl ysgol Cymraeg yn Ysgol Panteg, Tref Gruffydd, yn ogystal â sesiynau newydd i ofalwyr ifanc yng ngogledd y fwrdeistref.

“Mae’r gwasanaethau yma yn ychwanegol i’r cannoedd o sesiynau chwarae sy’n cael eu darparu gan ein timau o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr pob mis ac maen nhw’n dangos ein cefnogaeth barhaus o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd chwarae i blant”.

Y Chwe chlwb newydd yw:

  • Clybiau Chwarae ac Ymwybyddiaeth Ofalgar - dydd Mawrth o 4:30pm-5:30pm yn Hen Lyfrgell Abersychan i blant 8 - 11 oed a phob dydd Iau, 4:30pm-5:30pm yn Neuadd Gymunedol y Ddôl Werdd a Sain Derfel i blant 8 to 11 oed.
  • Clwb ar ôl Ysgol Maendy – pob dydd Mawrth tan 4:30pm i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6.
  • Clwb ar ôl Ysgol yn Ysgol Panteg – pob dydd Iau tan 4:30pm i ddisgyblion blynyddoedd 4 a 5.
  • Gofalwyr Ifanc y Gogledd – pob yn ail ddydd Iau, 4:30pm-6:00pm i ofalwyr ifanc 5-11 oed (Angen atgyfeiriad)
  • Eglwys Victory – Sesiwn Chwarae’r Penwythnos – pob dydd Sadwrn o 9:30am-11:15am.
  • Sesiynau Chwarae i’r Teulu yn Abersychan – Dydd Llun o 1:00pm-2:30pm yn Hen Lyfrgell Abersychan, Brynteg, Abersychan.

Mae’r Sesiwn Chwarae Teuluol newydd yn Abersychan yn ychwanegol i’r 7 o Sesiynau Chwarae Teuluol sydd eisoes yn digwydd yn wythnosol mewn lleoliadau cymunedol amrywiol yn Nhorfaen.  Does dim angen bwcio o flaen llaw ar gyfer y sesiynau yma ac maen nhw am ddim.

Bydd y darpariaethau newydd uchod yn dechrau’r wythnos yn cychwyn 23 Ionawr.

I gadw lle i’ch plentyn yn un o’r clybiau uchod, danfonwch e-bost at torfaenplay@torfaen.gov.uk

Mae’r sesiynau yma yn ychwanegol i’r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu gan Wasanaeth Chwarae Torfaen, gan gynnwys clybiau chwarae cymunedol, Go Play, chwarae penwythnos a seibiant, clwb Lego, Gwersylloedd Bwyd a Hwyl, prosiectau’n gysylltiedig ag ysgolion a darpariaethau hanner tymor a’r haf.

Mae nifer o’r prosiectau chwarae yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwr.  Mae’r Prosiect Gwirfoddolwyr Ifanc ar agor nawr ar gyfer recriwtio at yr haf.

Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd ac am wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Chwarae dros yr haf yma, cwblhewch ein ffurflen ar-lein yma, neu e-bostiwch andrea.sysum@torfaen.gov.uk am fwy o wybodaeth.

I wybod mwy am y darpariaethau chwarae newydd a chyfredol sy’n digwydd ledled Torfaen, ewch i wefan Cyngor Torfaen, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu Chwarae Torfaen Play yn y cyfryngau cymdeithasol. Fel arall, gallwch ddanfon e-bost at torfaenplay@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 08/01/2025 Nôl i’r Brig