Wedi ei bostio ar Dydd Llun 24 Ebrill 2023
Croesycast pupils sat in front of a computer
Mae myfyrwyr o Ysgol Gyfun Croesyceiliog wedi bod yn cyfweld â sêr o Gymru ar gyfer podlediad newydd yr ysgol.
Mae’r tîm o chwe disgybl o Flwyddyn 7 eisoes wedi cyfweld â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gantores opera, Katherine Jenkins a seren Hollywood, Luke Evans, ar gyfer Croesycast, sydd ar gael ar wefan yr ysgol.
Meddai Phoebe: "Rydyn ni’n rhannu’r gwaith rhwng y tîm ac yn cymryd ein tro i gyfweld â phobl. Rydyn ni hefyd yn rhoi sylw i bethau sy’n digwydd yn yr ysgol, fel canlyniadau gêmau pêl-droed."
Fatima oedd un o’r myfyrwyr a fu’n cyfweld â Phrif Weinidog Cymru. Meddai: "Roedd e’n hyfryd ac wedi ateb pob un o’n cwestiynau ni, er enghraifft a oedd e’n hoffi mynd i’r ysgol."
A bu Sofia yn cyfweld â Luke Evans. Meddai: "Nes i holi ble’r oedd ei hoff le yng Nghymru a pham y daeth e’n actor. Dywedodd ei fod wrth ei fodd yn actio yn yr ysgol ac yna dechreuodd e’ ofyn llond lle o gwestiynau i ni!".
Syniad athro dan hyfforddiant, Will Boardman, oedd Croesycast ac mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau gydag aelodau o staff a disgyblion, yn ogystal â’r diweddaraf am berfformiad tîmau chwaraeon yr ysgol.
Mae tîm Croesycast hefyd wedi creu fideo byr yn rhan o ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen, sy’n ceisio hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion sy’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd. Gallwch wylio’r fideo ar Twitter trwy chwilio am #DdimMewnColliMas neu #NotInMissOut.
Yn raddol, mae cyfraddau presenoldeb yr ysgol wedi gwella ers y pandemig, diolch i gyfres o fesurau sy’n cynnwys gwobrwyo disgyblion â phresenoldeb o 100 y cant, hyrwyddo buddion presenoldeb rheolaidd ar gyfryngau cymdeithasol a dweud wrth rieni am y ffordd gywir o ddweud wrth yr ysgol am absenoldebau awdurdodedig.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Yr Aelod Gweithredol dros Addysg: "Mae’r podlediad yn gyfle gwych i’r tîm ddysgu sgiliau fel cyfweld, recordio a chynhyrchu sain, ac rwy’n sicr y byddant yn elwa ar y sgiliau hyn, waeth pa yrfa y byddant yn ei dilyn.
"Mae’r ymgyrch Ddim Mewn Colli Mas yn fwy na hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da i addysg fyfyrwyr. Mae’n golygu dathlu’r cyfleoedd amrywiol y mae ysgolion yn eu cynnig trwy eu rhaglenni allgyrsiol."
Am ragor o wybodaeth am bresenoldeb a’r ymgyrch #DdimMewnColliMas, ewch i’n gwefan neu chwiliwch am yr hashnod ar Twitter.