Grantiau Cydnerthedd Cymunedol Torfaen
Mae gennym gyfle gwych i sefydliadau cymunedol ymgeisio am grantiau rhwng £200 a £40,000 i helpu datblygu gweithgareddau yn ein cymunedau sy’n annog perchnogaeth y gymuned, yn datblygu annibyniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth sy’n para i fywydau pobl.
Mae yna ddau grant ar gael:
- Grant Gweithgarwch Cymunedol - £200 - £3,000 – Cyllid Refeniw yn Unig
Mae cyllid refeniw ar gael i gefnogi grwpiau a sefydliadau i brynu eitemau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau, hyfforddiant, marchnata, cyfarpar gan gynnwys TG a nwyddau gwyn.
- Grant Datblygu Cymunedol – hyd at £40,000 – Cyfuniad o Gyllid Cyfalaf a Refeniw (Uchafswm o £20,000 Cyfalaf / £20,000 Refeniw)
Mae grantiau Cyfalaf a Refeniw ar gael i sefydliadau â ganddynt adeiladau sydd efallai angen eu huwchraddio neu wella. Efallai y bydd ar sefydliadau angen mwy o gyllid Refeniw na’r hyn sydd ar gael trwy’r Grantiau Bach hefyd, ar gyfer prosiectau ehangach a mwy beiddgar.
Meini Prawf
Bydd gofyn i grwpiau ddangos sut y mae eu prosiect yn cyfrannu at un o’r themâu Cymunedau Cryf canlynol:
- Datblygu Gweithredu Cymdeithasol a Gweithgarwch Cymunedol (newydd neu well)
- Gweithgareddau Llesiant, atal afiechyd a gwella iechyd
- Cymorth gyda Chostau Byw, er enghraifft mynediad at gyngor a gwasanaethau a lleihau tlodi tanwydd
- Effeithlonrwydd Ynni a Newid Hinsawdd
- Mesurau effeithlonrwydd ynni a lleihau CO2 ar gyfer y sefydliad
- Cyngor ac arweiniad i’r gymuned ehangach mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni, ailgylchu a lleihau ynni yn y cartref
- Gwella’r cynnig Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth
Bydd gofyn i bob prosiect ddangos:
- Bod mwy o bobl yn cymryd rhan a mwy o ymgysylltiad â’r gymuned ehangach
- Datblygiad gweithgaredd/prosiect sy’n anelu at ddod yn hunangynhaliol
- Y potensial i greu incwm ac i sicrhau bod gweithgareddau’n gweithio’n fwy effeithlon
Cymhwystra
Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid grant, fe fydd eich prosiect yn meithrin cymunedau a mudiadau cymunedol cryf a chydnerth. Rhaid bod y prosiect yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach ac yn cynyddu ymgysylltiad a niferoedd sy’n cymryd rhan. Yn ddelfrydol, bydd eich prosiect a'ch mudiad yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i uchafu adnoddau ac i atal gwasanaethau rhag cael eu dyblygu. Dylai’r prosiect gyfeirio ymdrechion i ddod yn hunangynhaliol a dylai fod yn gallu parhau unwaith y bydd y cyllid grant wedi cael ei wario.
Nodwch: Ni allwn ariannu grwpiau nad ydynt yn cynnwys y gymuned ehangach.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
- Cwmnïau Budd Cymunedol
- Grwpiau Cymunedol â Chyfansoddiad
- Mentrau Cymdeithasol
- Elusennau
- Grwpiau Gwirfoddol
- Ysgolion (rhaid eu bod yn cefnogi gweithgareddau cymunedol ehangach)
- Clybiau/Grwpiau Chwaraeon (rhaid eu bod yn cefnogi gweithgareddau cymunedol ehangach)
Amserlen ar gyfer Ymgeisio
Y dyddiadau cau nesaf ar gyfer y Grant Gweithgareddau Cymunedol yw:
Y dyddiadau cau nesaf ar gyfer y Grant Datblygu Cymunedol yw:
Cysylltu â Ni
Am ragor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i: CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2024
Nôl i’r Brig