Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru
Mae gan Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru rôl strategol arweiniol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Ne Ddwyrain Cymru yn cael eu diogelu rhag gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio ac yn byw mewn amgylchedd sy'n hybu eu lles a chyfleoedd bywyd.
Mae'r Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru yn gorff statudol sy'n deillio o Ddeddf Plant 2004; fe wnaeth ddisodli'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
Mae'r Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Gwent, Gwasanaethau Cymdeithasol a Cyfarwyddiaethau Addysg o'r pum ardal Awdurdod Lleol, y Sector Gwirfoddol, Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru Gyfan, CAFCASS Cymru, Tai, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Pwrpas y gwaith partneriaeth hwn i ddwyn ei gilydd i gyfrif ac i sicrhau bod diogelu plant yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda ar draws y rhanbarth.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Diogelu Gwent.
Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023
Nôl i’r Brig