Amddiffyn Plant

Mae gan adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn plant a phobl ifanc o dan Adran 78 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ymchwilio i'r holl honiadau o gam-drin neu bryderon ynghylch esgeulustod y rhoddir gwybod i ni amdanynt. 

Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os dywed plentyn wrthoch ei fod yn cael ei gam-drin, ffoniwch 01495 762200 (neu 0800 328 4432 mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa) gan ddweud mai atgyfeiriad Amddiffyn Plant sydd gennych. Os oes risg uniongyrchol o niwed i'r plentyn, ffoniwch yr heddlu. 

Mae sawl math o gam-drin:

  • Esgeulustod
  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol
  • Cam-drin emosiynol

Mae cam-drin domestig hefyd yn cael effaith niweidiol ar les plentyn. 

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n cael ei gam-drin, peidiwch â dioddef yn dawel. Dywedwch wrth rywun. 

Pan gawn wybod am bryder, byddwn yn gwneud ymholiadau, gan ddechrau fel arfer trwy ymweld â'r plentyn a'r teulu. Fel rheol, gwneir hyn gyda'r heddlu. 

Os oes pryderon y byddai ymweld â chartref y teulu'n peri mwy o risg o niwed i'r plentyn, byddwn yn gwneud ymholiadau i ddechrau ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill a allai adnabod y plentyn a'i deulu, e.e. yr ysgol, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol, meddyg teulu, gweithiwr ieuenctid. 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, peidiwch â'u cadw i chi'ch hun.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig