Amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed
Mae oedolyn sy'n agored i niwed yn unigolyn dros 18 oed y mae angen, neu y gallai fod angen gwasanaethau gofal cymunedol arno am resymau yn ymwneud ag iechyd meddwl neu anabledd arall, oedran neu salwch.
Mae'n bosibl na fydd oedolyn sy'n agored i niwed yn gallu gofalu amdano'i hun neu amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gamfanteisio difrifol.
Gallai oedolyn sy'n agored i niwed fod yn unigolyn:
- Sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd
- Sy'n fregus yn gorfforol neu sydd â salwch cronig
- Sydd â salwch meddwl neu ddementia
- Sydd ag anabledd dysgu
- Sy'n hen ac yn fregus
- Sy'n camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol
- Sydd â phroblemau cymdeithasol neu emosiynol
- Sy'n arddangos ymddygiad heriol
Bydd yr hyn sy'n gwneud unigolyn yn agored i niwed yn dibynnu ar ei amgylchiadau a'i amgylchedd, ac mae'n rhaid ystyried pob achos yn unigol.
Beth yw cam-drin oedolion?
Camdriniaeth yw pan fydd unrhyw unigolyn neu unigolion yn torri ar hawliau dynol a sifil unigolyn arall. Gall y gamdriniaeth amrywio o drin rhywun yn amharchus mewn ffordd sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd yr unigolyn, i achosi dioddefaint corfforol gwirioneddol.
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le - gartref, mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysgol, mewn tai â chymorth neu ar y stryd.
Mae mathau o gamdriniaeth yn cynnwys:
- Camdriniaeth gorfforol - taro, gwthio, pinsio, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldio, ataliad corfforol, tynnu gwallt.
- Camdriniaeth rywiol - trais, ymosodiad rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn sy'n agored i niwed wedi cydsynio iddynt, neu na allai fod wedi cydsynio iddynt, neu y rhoddwyd pwysau arno i gydsynio iddynt.
- Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol - bygythiadau o niwed neu adael, amddifadu'r unigolyn o gysylltiad cymdeithasol neu unrhyw fath arall o gysylltiad, bychanu, beio, rheoli, dychryn, gorfodi, aflonyddu, cam-drin geiriol, atal yr unigolyn rhag derbyn gwasanaethau neu gymorth.
- Camdriniaeth ariannol neu faterol - dwyn, twyll neu gamfanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag ewyllys ac etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.
- Esgeulustod - fel anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol ac atal yr unigolyn rhag cael at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, neu ymatal rhag rhoi angenrheidiau bywyd fel bwyd, diod a gwres.
- Camdriniaeth wahaniaethol - ar sail hil neu rywioldeb neu anabledd unigolyn a mathau eraill o aflonyddu neu ddifrïo.
- Camdriniaeth sefydliadol - mae hyn yn digwydd weithiau mewn cartrefi preswyl, cartrefi nyrsio neu ysbytai pan fydd pobl yn cael eu cam-drin oherwydd gofal gwael neu annigonol, esgeulustod ac arferion gwael sy'n effeithio ar y gwasanaeth cyfan.
Gall unrhyw un o'r mathau hyn o gamdriniaeth fod yn fwriadol neu ddigwydd o ganlyniad i anwybodaeth neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth, Yn aml, os yw unigolyn yn cael ei gam-drin mewn un ffordd, bydd yn cael ei gam-drin mewn ffyrdd eraill hefyd.
Os ydych chi'n amau bod oedolyn sy'n agored i niwed yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'r Uned Ddiogelu ar 01495 762200.
Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021
Nôl i’r Brig