Derbyn i Ysgolion - Cwestiynau Cyffredin

1. Pryd ddylwn i ymgeisio am le meithrin neu ysgol i’m plentyn?

Mae’r cyngor yn cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl geisiadau i dderbyn plant i ysgolion, a dylech gadw llygad am yr amserlen ar gyfer ceisiadau, yn yr haf y flwyddyn cyn y disgwylir i’ch plentyn ddechrau yn y meithrin neu mewn ysgol.

Er enghraifft, os yw eich plentyn i fod i ddechrau mewn dosbarth meithrin neu yn yr ysgol ym mis Medi 2025, dylech gadw llygad am yr amserlen ar gyfer ceisiadau yn ystod haf 2024 i gadarnhau’r dyddiad y bydd angen i chi gyflwyno’r cais.

Mae yna ddyddiad cau o ran gwneud cais. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, neu’n newid eich dewis ar ôl y dyddiad cau, gall gynyddu'r posibilrwydd o beidio â chael lle yn yr ysgol o'ch dewis.

Caiff yr amserlen dderbyn ei harddangos mewn ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a hamdden.

Bydd y dyddiadau cau hefyd yn cael eu nodi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cyngor.

Mae cyfrifoldeb ar rieni i gadw golwg am yr hysbysiadau hyn a chyflwyno cais ar yr adeg gywir.

2. Pwy all wneud cais i blentyn gael ei dderbyn i ysgol neu drosglwyddo rhwng ysgolion?

Mae’n rhaid i oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn gyflwyno cais, a bydd rhaid iddo gadarnhau mai ef sydd â chyfrifoldeb yn rhan o'r cais. 

Disgwylir y bydd rhieni'n cytuno ar flaenoriaethau ysgol ar gyfer plentyn cyn cyflwyno cais.

Os nad yw’r rhieni’n cytuno, bydd y cyngor yn derbyn cais gan y rhiant sy’n derbyn y budd-dal plant.

Nid yw’r cyngor mewn sefyllfa i ymyrryd mewn dadleuon rhwng rhieni dros geisiadau am leoedd ysgol, a bydd yn gofyn i'r rhain gael eu datrys yn breifat.  

3. A allaf gofrestru enw fy mhlentyn mewn ysgol benodol i gael blaenoriaeth?

Na. Bydd pob cais sy’n cael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau perthnasol yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, ac ni roddir blaenoriaeth ar sail y cyntaf i'r felin.  

Rheolir a gweinyddir derbyniadau plant i ysgolion gan Awdurdod Derbyn’. Yn achos ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, cydnabyddir hyn fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Awdurdod Lleol).

4. Sut alla’i wneud cais am le ysgol yng Nhorfaen?

Ymgeisiwch am le ysgol ar-lein fel y’i nodir yn yr amserlen dderbyn i ysgolion.

Mae’n bwysig eich bod chi’n cyflwyno eich cais cyn y dyddiad cau, oherwydd bydd cais hwyr yn cynyddu’r posibilrwydd o beidio â chael lle yn eich ysgol ddewisol.

I gael cyngor e-bostiwch school.admissions@torafen.gov.uk

5. Oes angen i mi ymgeisio hyd yn oed os ydw i’n byw yn y dalgylch neu os oes gen i blentyn hŷn yn yr un ysgol?

Oes, mae’n rhaid i bob plentyn sydd am gael lle ysgol prif ffrwd wneud cais.

Does dim gwarant o le i’ch plentyn mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os taw'r ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, neu os oes gennych blant eraill yn yr ysgol honno, er y byddant yn cael mwy o flaenoriaeth.

Mae trefn y flaenoriaeth yn cael ei nodi yn y Polisi Derbyn i Ysgolion.

Gallwch ddod o hyd i dalgylch eich ysgol yma.

6. Sut alla’i wneud cais am le yn y chweched Dosbarth (addysg anstatudol)?

Derbyniadau i’r chweched Dosbarth – ceir darpariaeth 6ed dosbarth cyfrwng Saesneg ym Mharth Dysgu Torfaen, Cwmbrân.

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn dal i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16. Cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud cais am le mewn chweched dosbarth. 

7. Sut ddylwn i benderfynu pa ysgol i wneud cais amdani?

Ystyriwch a ydych yn awyddus i’ch plentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu addysg ffydd.

Am restr o ysgolion yng Nhorfaen ewch i Cyfeiriadur Ysgolion.

Meddyliwch am sut bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol gan na fyddant o reidrwydd yn gymwys am drafnidiaeth ysgol.

Darganfyddwch sut mae ysgolion yn perfformio ar wefan Estyn.

8. Pa ysgol yw f’ysgol ddalgylch?

 ‘Ardal dalgylch’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal ddaearyddol lle fydd plant yn cael blaenoriaeth am le mewn ysgol benodol, er nad yw’n gwarantu lle.

Er bod gan bob ysgol ardal dalgylch dynodedig, gall rhieni ddewis unrhyw ysgol maent am i’w plant ei mynychu.

Yn Nhorfaen, bydd pob cyfeiriad yn dod o fewn dalgylch ysgol cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg.

Gellir gweld manylion eich ysgol ddalgylch ar.

9. Beth os rwyf eisiau i'm plentyn gael addysg ffydd?

Mae gan Gyrff Llywodraethu Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn Nhorfaen, gyfrifoldeb am eu trefniadau derbyn eu hunain, a dylid gwneud cais am ffurflenni cais yn uniongyrchol i’r ysgol, gan ddychwelyd y ffurflenni i’r ysgol o’ch dewis.

10. Beth os rwyf yn awyddus i’m plentyn gael ei addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Mae addysg gyfrwng Gymraeg ar gael i bawb – mae nifer fawr o’r rhieni plant ysgolion gyfrwng Gymraeg Torfaen methu siarad Cymraeg ac nid yw hyn yn rhwystr i chi neu’ch plentyn.

I rieni sy'n dymuno i'w plentyn gael ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mae tair Ysgol Gynradd Gymraeg ar hyn o bryd ynghyd ag un ysgol 3-18 oed (Ysgol Gymraeg Gwynllyw). Agorodd y ddarpariaeth hon fel egin ysgol, gan gynnig lleoedd mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn ym mis Medi 2022.

Mae yna bedair Uned Feithrin Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Bryn Onnen (Farteg, Pont-y-pŵl), Ysgol Gymraeg Gwynllyw (Trefddyn) ac Ysgol Panteg (Tref Gruffydd).

Gymraeg yw iaith ffurfiol ac anffurfiol yr ysgolion yma o fewn mhob pwnc.

Mae disgyblion o fewn ysgolion Gymraeg yr ardal yn dysgu Saesneg a Chymraeg i safonau uchel. Mae holl ddysgu ac asesiadau, heblaw am bwnc Saesneg, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol yr holl gyfresau allweddol.

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg ac rydych yn ystyried symud i ysgol gyfrwng Gymraeg, cymerwch sylw fod yna cyfnod sy'n medru cefnogi eich plentyn yn ystod eich cyfnod trawsnewid. Ewch I Addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg i gael rhagor o wybodaeth.

11. Oes gwarant y byddaf yn cael lle yn yr ysgol o'm dewis?

Nac oes, does dim gwarant lle mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw’r ysgol ddalgylch.

Mewn sawl ardal yng Torfaen, mae’r galw am leoedd ysgol yn uchel iawn ac rydym yn derbyn mwy o geisiadau na‘r lleoedd sydd ar gael – golyga hyn y bydd rhai ceisiadau’n cael eu gwrthod.

Mae’n bwysig nad ydych yn annog eich plentyn i gredu y bydd lle ar gael iddo/iddi mewn unrhyw ysgol benodol cyn i chi gael eich penderfyniad. 

12. A ddylwn wneud cais am fwy nac un ysgol?

Ni fydd eich plentyn yn gallu cael ei ystyried ar gyfer lle mewn ysgol oni bai eich bod wedi gwneud cais ar ei gyfer, felly dylech ystyried dewis o leiaf tair ysgol wahanol i gynyddu'r posibilrwydd o gael lle'r ydych chi'n fodlon arno.

Bydd mynegi blaenoriaeth am ysgol yn rhoi blaenoriaeth i’ch plentyn chi dros y rhieni hynny sydd heb nodi blaenoriaeth.

Os ydych yn penderfynu i beidio â nodi’r ysgol ddalgylch fel un o’ch blaenoriaethau ond yn aflwyddiannus gyda phob un dewis, bydd eich plentyn ond yn cael ei ystyried ar gyfer lle yn yr ysgol ddalgylch os oes lleoedd ar gael.

13. Pa dystiolaeth sydd angen arnaf i gefnogi fy nghais?

Bydd angen tystiolaeth o’ch cyfeiriad cartref ar gyfer pob cais.

Bydd angen tystiolaeth o ddyddiad geni plentyn ym mhob achos, oni bai pan fydd y plentyn yn trosglwyddo o un ysgol yng Nghasnewydd i un arall.  

Mae’r holl fanylion am y dystiolaeth fydd ei hangen arnoch yn y Polisi Derbyn i Ysgolion.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir heb y dystiolaeth berthnasol yn gymwys i gael blaenoriaeth o dan y meini prawf gordanysgrifio, a gallai hyn olygu na chynigir lle mewn ysgol i'ch plentyn.

Wrth gyflwyno tystiolaeth, rhaid i chi ddarparu copïau o ddogfennau yn unig. Ni all y Cyngor gymryd cyfrifoldeb am ddychwelyd unrhyw ddogfennau gwreiddiol.

14. Mae fy mhlentyn yn byw mewn cyfeiriad gwahanol yn ystod yr wythnos, pa gyfeiriad ddylwn i roi ar y ffurflen gais?

Mae’r cyngor yn ystyried cyfeiriad cartref eich plentyn fel y lle y mae’n byw'n barhaol ar gyfer mwyafrif yr wythnos ysgol ar y dyddiad cau perthnasol.

Fel arfer yr un cyfeiriad â’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, sef y prif ofalwr, yw’r cyfeiriad hwn, ac nid yw’n golygu'r cyfeiriad lle bydd eich plentyn yn derbyn gofal gan berthnasau neu bobl eraill.

Pan fo’r plentyn yn treulio’r un faint o amser gyda’r ddau riant/gofalwyr, neu os yw cyfeiriad y cartref yn destun dadlau, cartref y person sy’n derbyn y budd-dal plant gaiff ei ystyried yn gartref y plentyn.  

15. Beth os byddaf yn symud tŷ yn ystod y broses ymgeisio?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau – gan gynnwys newid cyfeiriad – ar ôl cyflwyno’ch cais.

Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei hanfon at y cyfeiriad cywir yn unig, a ni fydd yn effeithio ar ganlyniad eich cais os yw hyn ar ôl y dyddiad cau.

Bydd cyfeiriad newydd ond yn cael ei ystyried wrth bennu canlyniad eich cais os ydych yn byw yno ar y dyddiad cau, ac yn cyflwyno tystiolaeth o hyn.

Os ydych yn symud i mewn i Torfaen neu i rywle arall yng Nhorfaen, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.  

16. Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Os byddwch yn cyflwyno cais ar-lein byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost awtomataidd cyn gynted ag y caiff y cais ei gyflwyno.

Os na fyddwch yn derbyn y cadarnhad hwn bydd angen e-bostio’r tîm derbyn i ysgolion cyn gynted â phosibl i wirio a yw’ch cais wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.

Ni all y cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gais neu dystiolaeth sydd heb ei gyflwyno’n gywir ar y system ar-lein neu os yw wedi mynd ar goll yn y post. 

Unwaith y bydd wedi'i dderbyn, caiff eich cais ei asesu gyda phob un arall sydd wedi’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau.  

17. Pa mor hir fydd angen aros i gael penderfyniad?

Byddwn yn dweud wrthych am ganlyniad eich cais am le ysgol ar y dyddiad cynnig perthnasol.

Bydd llythyrau penderfyniad yn cael eu hanfon drwy bost ail ddosbarth ddim llai na dau diwrnod gwaith (gan gynnwys dydd Sadwrn) cyn y dyddiad cynnig.

Bydd ymgeiswyr sy’n dewis cyflwyno cais ar-lein yn sicr yn derbyn e-bost yn cadarnhau eu penderfyniad ar y dyddiad cynnig.  

18. Sut fydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Byddwn yn ystyried faint o leoedd sydd ar gael ym mhob ysgol a faint o ddisgyblion sydd wedi gwneud cais am le yn yr ysgol honno.

Pan fo nifer y ceisiadau yn gyfartal â neu’n llai na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd pob cais yn llwyddiannus.

Pan fo nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio cyfres o feini prawf i adnabod pa ddisgyblion ddylai gael blaenoriaeth. Gelwir hyn yn feini prawf gordanysgrifio ac mae ar gael i'w weld yn y Polisi Derbyn i Ysgolion..

19. Pa ddisgyblion fydd yn cael blaenoriaeth?

a) Disgyblion â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig/Cynllun Datblygu Unigol

Bydd plant â datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol/Chynllun Datblygu Unigol sy’n enwi’r ysgol yn cael eu derbyn cyn ymgeiswyr eraill.

Os nad oes unrhyw ysgol yn cael ei henwi mewn datganiad, ystyrir y gall anghenion y plentyn gael eu bodloni mewn unrhyw ysgol brif ffrwd, does dim blaenoriaeth benodol a bydd y cais yn cael ei asesu'n unol â'r meini prawf gordanysgrifo cytunedig.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch AdditionalLearningNeeds@torfaen.gov.uk

b) Plant sy’n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan plant sy’n derbyn gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) os byddant wedi’u hategu gan ddatganiad gan weithiwr cymdeithasol y plentyn yn amlinellu buddion y lleoliad ysgol.

Gellid rhoi’r blaenoriaeth hon i blant a arferai dderbyn gofal er bod rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cais roi tystiolaeth i gadarnhau'r statws gofal blaenorol, megis tystysgrif mabwysiadu.

c) Plant sy’n byw yn ardal ddalgylch yr ysgol

Bydd plant sydd wedi’u cadarnhau fel eu bod yn byw yn ardal ddalgylch yr ysgol yn cael blaenoriaeth uwch na’r rheiny sy’n byw y tu allan i’r dalgylch pan fo lleoedd ar gael.

Gellir rhoi blaenoriaeth am le yn y dalgylch pan ddaw’r tystiolaeth y gofynnwyd amdani i law yn dangos cyfeiriad y cartref, a hynny’n unig.

d) Plant gydag amgylchiadau meddygol neu blant ar y gofrestr amddiffyn plant

Bydd ceisiadau a wneir ar sail angen meddygol yn cael blaenoriaeth os ydynt wedi'u hategu gan adroddiad gan feddyg ymgynghorol, y gofynnwyd amdano gan y rhieni, sy’n nodi’r fantais feddygol i’r plentyn o fynychu’r ysgol dan sylw.

Ni dderbynnir adroddiadau gan feddygon teulu neu weithwyr proffesiynol iechyd eraill at y diben hwn.

Rhoddir blaenoriaeth pan ellir dangos mai'r ysgol a ffefrir yw'r unig opsiwn ymarferol o gymharu ag ysgolion eraill y gallai'r Cyngor eu cynnig, a hynny’n unig.

e) Plant gyda brodyr a chwiorydd

Bydd plant gyda brodyr a chwiorydd yn yr ysgol pan fyddant yn ymuno yn cael mwy o flaenoriaeth na’r rheiny sydd heb frodyr na chwiorydd yn yr ysgol.

Nid yw hyn yn berthnasol i geisiadau am leoedd meithrin. 

20. A yw lleoedd ysgol yn cael eu cadw i blant fydd yn symud i mewn i'r ardal?

Na, mae’n rhaid i ni dderbyn disgyblion hyd at y nifer derbyn a does dim hawl i gadw neu ddal lle rhag ofn y bydd teuluoedd yn symud i mewn i'r ardal, neu ar gyfer unrhyw grŵp benodol o bobl.

Nid yw’n bosibl symud plentyn o ysgol os oes plentyn gyda mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gordanysgrifio'n angen lle.

Os ydych yn symud i mewn i Torfaen neu i rywle arall yng Nhorfaen, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.  

21. Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael fy ngwrthod gan yr ysgol(ion) ddewisol?

Os nad oes modd cynnig lle yn eich ysgol(ion) ddewisol o ganlyniad i ddefnyddio’r meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, ac os ydych yn byw yng Nhorfaen, byddwch yn cael cynnig lle amgen yn eich ysgol ddalgylch os oes lleoedd ar gael.

Os nad yw’r ysgol ddalgylch ar gael, byddwn yn dweud wrthych am yr ysgolion sydd â lleoedd ar ôl ynddynt, ac yn gofyn i chi i nodi blaenoriaethau eraill hefyd.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus ac nid ydych yn byw yng Nhorfaen, fe’ch cynghorir chi i gysylltu â’ch awdurdod lleol gartref am ysgol amgen neu gyflwyno blaenoriaethau ychwanegol ar gyfer ysgolion eraill yng Nhorfaen.

Os yw dewis ysgol yn aflwyddiannus, byddwch yn cael hawl i apelio'n erbyn y penderfyniad hwn - does dim hawl i apelio o ran derbyn ddosbarthiadau meithrin.

Bydd enw eich plentyn yn cael ei ychwanegu at restr aros ar gyfer unrhyw flaenoriaeth ysgol sy'n cael ei wrthod.

Os yw lleoedd yn dod ar gael, bydd pob plentyn ar y rhestr aros yn cael eu hystyried gyda’i gilydd ar gyfer y lle, ac yn cael eu blaenoriaethu fel y’i nodir yn y polisi derbyn i ysgolion.

Nid yw rhestrau aros yn rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad y cyflwynwyd y cais, ac nid yw bod ar restr aros yn gwarantu y bydd lle'n dod ar gael maes o law.

Bydd hyd yr amser y bydd eich plentyn yn aros ar y restr aros hon yn cael ei gadarnhau yn eich llythyr penderfyniad. 

22. Oes modd cael gwybod lle mae fy mhlentyn ar y rhestr aros?

Gan nad ydym yn sgorio na’n rhoi unrhyw drefn ar y rhestr aros, bydd y rhestr yn berthnasol nes bydd lle’n dod ar gael yn y grŵp blwyddyn perthnasol. Gallwn roi safle'ch plentyn ar y rhestr fel rhagamcan yn unig ar eich cais.  

23. Sut mae’r broses apeliadau'n gweithio?

Os yw dewis ysgol yn aflwyddiannus, byddwch yn cael hawl i apelio'n erbyn y penderfyniad hwn - does dim hawl i apelio o ran derbyn ddosbarthiadau meithrin.

Bydd profforma apelio wedi'i amgau gyda'ch llythyr penderfyniad, a dylech ddychwelyd hwn i bennaeth cyfraith a rheoleiddio'r cyngor erbyn y dyddiad a nodir er mwyn tynnu sylw at eich bwriad i apelio.

Yna, byddwch yn cael gwybod am ddyddiad ac amser eich gwrandawiad, sydd fel arfer yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ddinesig.

Yna, byddwch yn cael eich gwahodd i glywed achos y cyngor dros wrthod fydd yn cael ei gyflwyno i banel annibynnol o dri o bobl nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol dan sylw na'r cyngor.

Wrth gyflwyno apêl, rydych yn gwneud achos i’ch plentyn fynychu ysgol benodol a dylai’r achos fod yn seiliedig ar y rhesymau pam ddylai'ch plentyn fynd i'r ysgol honno.

Bydd y gwrandawiad apêl mor anffurfiol â phosibl ond os ydych yn credu bod angen ychydig o gyngor arnoch o ran sut i gyflwyno’ch cais, dylech geisio hyn yn annibynnol.

Mae hyn yn fater i bob unigolyn, ond nid yw pob rhiant yn meddwl bod angen hyn.

Ni all swyddogion drafod teilyngdod achos rhiant, gan fod hyn yn fater i’r panel.

Os ydych yn dymuno dewis ysgol flaenoriaeth amgen i’r un sydd wedi’i ddyrannu i’ch plentyn cysylltwch â’r tîm derbyn i ysgolion.

Ym mhob apêl derbyn i ysgolion, bydd penderfyniad y panel yn derfynol ac yn berthnasol i bob parti.

Gall y Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus archwilio cwynion ysgrifenedig am gamweinyddu ar ran panel apeliadau derbyn.

Mae camweinyddu’n cynnwys materion megis methu ag ymddwyn yn annibynnol ac yn deg, yn hytrach na chwynion lle bo person yn teimlo bod y penderfyniad yn un anghywir.

Bydd penderfyniad panel apeliadau’n gallu cael ei wrthdroi gan y llysoedd pan fo’r apelwyr neu'r awdurdod derbyn yn llwyddiannus yn eu cais am Adolygiad Barnwrol o'r penderfyniad hwnnw.  

24. Beth ddylwn i ei wneud os rwyf yn awyddus i drosglwyddo fy mhlentyn i ysgol amgen? 

Mae newid ysgolion yn fater sydd angen ystyriaeth ddifrifol gan nad yw’n ateb synhwyrol bob tro, a gall gael effaith andwyol ar addysg eich plentyn.

Os ydych yn meddwl am wneud cais i drosglwyddo eich plentyn i ysgol arall, dylech drafod eich opsiynau gydag ysgol bresennol eich plentyn gyntaf.

Efallai bod rhesymau addysgol cryf pam na ddylai trosglwyddiad ddigwydd, y bydd angen i chi eu hystyried.

Cyn penderfynu i ymgeisio am le mewn ysgol arall, bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol honno, gan na fyddwch o reidrwydd yn gymwys ar gyfer cymorth trafnidiaeth, hyd yn oed os oeddech yn gymwys gynt.

Lle bo’n bosibl, ni ddylech symud eich plentyn o’r ysgol bresennol tan bod lle amgen addas ar gael.

Bydd peidio â mynychu’n cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei adrodd wrth y swyddog lles addysg.

Ni fydd trosglwyddiad ysgol yn tarfu ar unrhyw gamau sydd eisoes ar waith gan y Gwasanaeth Lles Addysg.

Nid yw’r cyngor yn annog ceisiadau am drosglwyddiad un ai ym Mlwyddyn 10 neu 11 gan mae'n bosibl na fydd modd dysgu opsiynau pwnc TGAU eich plentyn yn yr ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani, ac mae'n debygol y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y dysgu.

Os ydych yn awyddus i newid ysgol gan eich bod yn symud i mewn i Torfaen neu i rywle arall yng Nhorfaen, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Darllenwch mwy am drosglwyddo yn ystod y flwyddyn

25. Oes modd symud fy mhlentyn i fyny neu i lawr i flwyddyn arall?

Rydym yn disgwyl i blant gael eu haddysg yn eu grŵp blwyddyn, oni bai bod amgylchiadau arbennig, megis plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu blant sydd wedi cael problemau neu wedi methu rhan o’r flwyddyn, yn aml yn sgil salwch.

Pan fo amgylchiadau eithriadol, byddwn yn ystyried cais rhiant i blentyn gael ei dderbyn y tu allan i’r grŵp blwyddyn arferol.

Fodd bynnag, does dim hawl i apelio os yw lle’n cael ei gynnig ond nid yn y grŵp blwyddyn dewisol.

Ni fydd eich plentyn yn cael ei dderbyn i unrhyw grwp blwyddyn y tu allan i'w oedran cronolegol oherwydd bod y grwp blwyddyn cywir yn llawn. 

26. A allaf i roi addysg i’m plentyn gartref?

Fel arfer, cyfeirir at hyn fel addysg ddewisol yn y cartref ac mae gan rieni hawl i addysgu eu plant gartref os ydynt yn bodloni gofynion adran 7 Deddf Addysg 1996.

Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar rieni bob plentyn o oed ysgol gorfodol i sicrhau bod y plentyn yn derbyn addysg llawn-amser effeithlon sy'n addas i'w hoedran, gallu a sgiliau, ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig all fod ganddynt, un ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Os yw eich plentyn yn mynychu'r ysgol ar hyn o bryd a'ch bod yn penderfynu addysgu’r plentyn yn y cartref, dylech ysgrifennu at yr ysgol yn gofyn iddynt dynnu enw’r plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol a datgan eich bod yn deall mai eich dyletswydd gyfreithiol chi yw sicrhau eich bod yn darparu addysg sy’n addas

Sylwch na fydd rhieni’n derbyn unrhyw adnoddau na chanllawiau ar addysgu na’r cwricwlwm gan y cyngor unwaith y gwneir penderfyniad i dynnu’r plentyn o’r ysgol.  

27. Pwy sy’n gymwys ar gyfer trafnidiaeth o gartref i’r ysgol?

Rhoddir cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddisgyblion oedran cynradd sy’n byw ddwy filltir neu ymhellach o’u hysgol ddalgylch agosaf neu’r ysgol agosaf sydd ar gael, ac i ddisgyblion oedran uwchradd sy’n byw dair milltir neu ymhellach o’u hysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael – mae hyn yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Yn ogystal, mae’r Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) yn nodi y dylai plentyn fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a ddim i ysgol arall os bydd honno’n agosach na’r ysgol ddalgylch ac ar yr amod bod y pellter cymhwyso yn berthnasol.

Er bod gan bob ysgol ardal ddalgylch dynodedig, gall rhieni ddewis unrhyw ysgol maent am i’w plant ei mynychu.

Os byddwch yn penderfynu anfon eich plentyn i ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch na'r ysgol agosaf, byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau a'r trefniadau cludiant.

Os nad yw cais am ddewis ysgol yn llwyddiannus, byddwch ond yn gymwys am gymorth trafnidiaeth os yw’ch plentyn yn mynychu un ai’r ysgol ddalgylch fel opsiwn amgen neu’r ysgol agosaf sydd ar gael, fel y’i pennir gan y tîm derbyn i ysgolion, ac os yw’r maen prawf pellter yn cael ei fodloni. 

Diwygiwyd Diwethaf: 26/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyn i Ysgolion

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig