Addysg ddewisol yn y cartref
Mae addysg ddewisol yn y cartref, a elwir hefyd yn addysgu gartref, yn golygu bod rhieni'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol llawn dros sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg addas.
Mae addysg ddewisol yn y cartref yn berthnasol i blant o oedran ysgol gorfodol.
Mae'n wahanol i diwtora gartref, sef pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sydd ddim yn gallu cael mynediad at addysg brif ffrwd am resymau meddygol neu seicolegol.
Eich cyfrifoldebau
Mae gan rieni hawl i addysgu eu plant yn y cartref, ac rydym yn cydnabod y gall addysg ddewisol yn y cartref fod yn ddewis dilys.
Os byddwch yn penderfynu addysgu gartref, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu darparu addysg addas ar unwaith.
Dylai'r addysg yr ydych yn ei darparu yn y cartref fod yn eang ac yn gytbwys, a dylai sicrhau bod eich plentyn yn cael profiad o sgiliau siarad a gwrando, llythrennedd a rhifedd a sgiliau digidol. Dylai hefyd gyd-fynd â'i alluoedd a'i ddawn, a dylai fod yn ddigon heriol i’ch plentyn allu dangos bod cynnydd yn cael ei wneud.
Os yw’ch plentyn yn yr ysgol, dylech ysgrifennu at y pennaeth i ddweud eich bod yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb dros addysg eich plentyn a'i dynnu oddi ar y gofrestr.
Mae angen i'r ddau riant sydd â chyfrifoldeb rhiant gytuno i'r penderfyniad i addysgu yn y cartref. Ddylai ysgolion ddim derbyn cyfarwyddyd i dynnu plentyn oddi ar y gofrestr os yw'n amlwg nad yw’r rhieni'n cytuno.
Am ragor o wybodaeth am addysg ddewisol yn y cartref, lawrlwythwch ganllaw Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau'r Cyngor
Gall ein swyddog addysg ddewisol yn y cartref gynnig cyngor ac arweiniad, a mynediad at rai adnoddau addysgol, gan gynnwys gweithdai, talebau llyfrau a thanysgrifiadau, lle bo’r adnoddau'n caniatáu. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y rhieni yw cynllunio addysg y plentyn yn y cartref, a darparu’r addysg honno.
Mae'n rhaid i ni wirio bod plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael addysg addas, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn gwneud ymholiadau gyda chi i sefydlu manylion yr addysg rydych yn ei darparu.
Byddwn yn gofyn am gael cwrdd â chi a'ch plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn i drafod eu cynnydd addysgol ac i weld tystiolaeth ohono. Rydym yn deall bod addysg yn y cartref yn wahanol i addysg yn yr ysgol, a byddwn yn ystyried amgylchiadau unigol wrth ddod i benderfyniad am addasrwydd yr addysg.
Ar ôl pob ymgais resymol, os nad ydym yn dawel ein meddwl fod plentyn yn cael addysg addas, byddwn yn dilyn prosesau ffurfiol a allai olygu bod rhieni’n cael Gorchymyn Mynychu’r Ysgol.
Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch Bolisi Addysg Ddewisol yn y Cartref y Cyngor.
Neu, darllenwch ganllawiau Addysg Ddewisol yn y Cartref Llywodraeth Cymru yma.
I gael cyngor ac arweiniad pellach am addysg ddewisol yn y cartref yn Nhorfaen, neu os ydych yn addysgu yn y cartref ar hyn o bryd ac eisiau arweiniad am fod eich plentyn am ddychwelyd i'r ysgol, cysylltwch â'r swyddog addysg ddewisol yn y cartref: trwy anfon neges trwy e-bost i EWS@torfaen.gov.uk – a rhoi EHE / ADdC yn y llinell destun.
Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2025
Nôl i’r Brig