Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Cynradd

Trosolwg

Mae 17 ysgol cyfrwng Saesneg, pedair ysgol cyfrwng Cymraeg a pum ysgol ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor yn Nhorfaen.

Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Nhorfaen gyfrifoldeb am eu trefniadau derbyn eu hunain a rhaid gofyn am ffurflenni cais yn uniongyrchol o'r ysgol a'u dychwelyd i'r ysgol o'ch dewis.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd yr awdurdod lleol yn ein Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.

Cymhwysedd

Mae plant fel arfer yn dechrau yn yr ysgol gynradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn bump oed (h.y. 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).

Gwneud Cais – Derbyn ym mis Medi 2025

  • Bydd ceisiadau ar-lein yn mynd yn fyw ddydd Mercher 6 Tachwedd 2024 (9.00am)
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – Dydd Iau 9 Ionawr 2025 (5pm)
  • Dyddiad y penderfyniad – Dydd Mercher 16 Ebrill 2025

Cysylltu

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu e-bostiwch school.admissions@torfaen.gov.uk.

Os nad ydych yn byw yn Nhorfaen, bydd gofyn i chi gysylltu â'ch Awdurdod Cartref i ofyn am gyngor ar sut i wneud cais.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am drefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel darparu cludiant ysgol yn Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/09/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyn i Ysgolion

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig