Porth Taliadau Addysg (ar gyfer Prydau Bwyd a Theithiau)
Rhaid talu am brydau ysgol a gweithgareddau'r ysgol ar-lein gan ddefnyddio Civica Pay Education.
Gwneud taliad ysgol
Ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin y Porth Taliadau Addysg i weld sut i gofrestru a defnyddio'r system.
Nodweddion Civica Pay Education
Gallwch dalu'n ddiogel trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar unrhyw ddyfais symudol, gliniadur neu gyfrifiadur.
Gallwch dalu am eitemau yn llawn neu dalu rhan-daliadau am weithgareddau ac eitemau fel teithiau ysgol, clybiau, digwyddiadau a gwisg ysgol, yn ogystal ag eitemau eraill.
Mae'r opsiwn ‘auto top-up’ yn ychwanegu arian yn awtomatig pan fydd cyfrif arlwyo ysgol yn disgyn o dan swm penodol.
Gallwch drosglwyddo arian sy’n weddill rhwng cyfrifon arlwyo ysgolion ond dim ond yn yr un ysgol.
Mae hanes llawn eich trafodion a'ch archebion ar gael.
Cliciwch yma i weld canllaw fideo.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Civica Pay Education, siaradwch â'r Ysgol neu anfonwch neges trwy e-bost i educationpayments@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Nôl i’r Brig