Cynllun Gwella Addysg
Mae Cynllun Gwella Addysg yn cyflwyno cynllun gweithredu er mwyn cyflawni cyfres o amcanion blynyddol.    
Datblygwyd Cynllun Gwella Addysg 2025/26 mewn cydweithrediad ag aelodau etholedig, swyddogion, penaethiaid a llywodraethwyr. 
Mae'n nodi sut y bydd amcanion eleni yn cael eu cyflawni:  
- Amcan 1 – Gwella canlyniadau dysgwyr, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a dysgwyr difreintiedig 
- Amcan 2 – Sicrhau darpariaeth arbenigol a darpariaeth wedi'i thargedu sy'n effeithiol, ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol  
- Amcan 3 – Hyrwyddo llesiant dysgwyr a hwyluso ymgysylltiad â'r gymuned 
- Amcan 4 – Datblygu llwybrau dilyniant dysgwyr i annog dysgu gydol oes 
- Amcan 5 – Hyrwyddo llesiant staff 
- Amcan 6 – Datblygu'r amgylchedd ffisegol a digidol ar gyfer dysgu 
Darllenwch y Cynllun Gwella Addysg yma.
Gwybodaeth am sut i ddod yn llywodraethwr ysgol.
 Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025 
 Nôl i’r Brig