Porth Taliadau Addysg - Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i'n cofrestru i ymuno â Phorth Civica Pay Education?
Byddwch yn cael neges trwy e-bost neu lythyr oddi wrth ysgol eich plentyn, gyda chod actifadu.
Bydd y neges e-bost yn dod o gyfeiriad donotreply-education@civicapayments.co.uk ac yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer cyfrif ac ychwanegu eich plentyn gan ddefnyddio'r cod.
Gallwch ychwanegu cyfrifon plant eraill gan ddefnyddio cod actifadu gwahanol.
Mae codau actifadu yn dod i ben ar ôl saith niwrnod. I ofyn am un newydd, cysylltwch â'r ysgol.
Cofiwch, rhaid bod y cyfeiriad e-bost a'r rhif ffôn symudol a ddefnyddir i ddilysu’r cyfrif yn cyd-fynd â'r manylion sydd gan yr ysgol. Os ydych chi'n cael unrhyw drafferth wrth gofrestru, cysylltwch â'r ysgol.
Sut ydw i'n actifadu fy nghyfrif?
I actifadu'ch cyfrif, cliciwch ar y ddolen yn y neges e-bost am gofrestru, a chreu cyfrif. Rhaid i'r manylion gwirio gyd-fynd â'r manylion sydd gan yr ysgol. Mae codau actifadu yn dod i ben ar ôl saith niwrnod. I ofyn am un newydd, cysylltwch â'r ysgol.
Beth os ydw i'n cael trafferth actifadu fy nghyfrif neu os nad yw'n adnabod fy nghyfeiriad e-bost?
Cysylltwch â'r ysgol i sicrhau bod eich manylion yn cyd-fynd â chofnodion yr ysgol. Byddan nhw'n cysylltu â'r tîm Taliadau Addysg os oes angen.
Beth os yw fy mhlentyn yn symud i ysgol arall ar ganol blwyddyn?
Bydd ysgol newydd eich plentyn yn anfon neges e-bost am gofrestru atoch, gyda chod cofrestru newydd.
Byddwch yn gallu gweld eu cyfrif ysgol blaenorol o hyd os yw'r gweddill yn is na sero neu'n uwch na sero. Os yw'r gweddill yn is na sero, bydd rhaid ei dalu er mwyn clirio'r cyfrif. Os yw'r gweddill yn uwch na sero, gallwch ei drosglwyddo i blentyn arall yn yr un ysgol neu ofyn am ad-daliad trwy gysylltu â'r ysgol y mae eich plentyn wedi'i gadael.
Ydw i’n gallu cael fy mhlant i gyd ar un cyfrif?
Ydych, - pan fyddwch wedi cofrestru un plentyn, gallwch glicio ar y botwm ‘Add Child’. Bydd angen codau actifadu unigol arnoch, a gallwch eu cael gan yr ysgol.
Beth os yw fy mhlant mewn ysgolion gwahanol?
Os oes gennych blant mewn ysgolion gwahanol, ac mae'r ysgolion hyn yn defnyddio Porth Civica Pay Education, yna byddwch yn gallu rheoli pob un o'ch plant o'r un cyfrif.
Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair, beth ddylwn i ei wneud?
I ailosod eich cyfrinair, ewch i'r dudalen fewngofnodi a chliciwch ar y ddolen ‘Forgot your password’. Rhowch eich cyfeiriad e-bost er mwyn cael cod dilysu. Rhowch y cod hwn i mewn a byddwch yn gallu newid eich cyfrinair.
Sut ydw i'n talu am ginio fy mhlentyn?
Cliciwch ar enw'ch plentyn a chlicio ar ‘Add Funds’.
Rhowch y swm yr hoffech ei ychwanegu ac ewch i'r opsiwn i dalu amdano.
Ar y dudalen ‘Add Card Details’ rhowch fanylion eich cerdyn.
Gallwch arbed manylion eich cerdyn i'w defnyddio yn y dyfodol.
Cliciwch ar ‘Pay Now’ i gwblhau’r taliad. Cewch dderbynneb trwy e-bost.
Sut ydw i'n gwybod bod fy nhaliad wedi cael ei ychwanegu at gyfrif fy mhlentyn?
I wirio'r gweddill ar gyfrif eich plentyn, cliciwch ar ddewislen y dangosfwrdd ar frig y dudalen derbynebau.
Gallwch hefyd edrych yn hanes y trafodion a dalwyd, trwy glicio ar y bar opsiynau o dan enw eich plentyn.
Os yw’r gweddill ar y cyfrif yn anghywir, neu os na allwch weld diweddariad am y trafodion a dalwyd, cysylltwch â'r ysgol.
Beth os nad oes llawer o arian yng nghyfrif arlwyo fy mhlentyn?
Gallwch drefnu taliadau awtomatig trwy glicio ar y botwm ‘Subscribe’ o dan fanylion cyfrif eich plentyn.
Rhowch y swm yr hoffech ei ychwanegu bob tro y bydd y gweddill ar y cyfrif yn disgyn o dan y trothwy.
Gallwch ddiffodd taliadau awtomatig trwy glicio ar y botwm ‘Subscribe’.
Sut ydw i'n arbed fy ngherdyn Debyd/Credyd er mwyn ychwanegu arian at fy nghyfrif arlwyo yn awtomatig ?
Gallwch wneud hyn pan fyddwch chi'n tanysgrifio i daliadau awtomatig.
Neu gallwch glicio ar ‘Manage Cards’ ar y dangosfwrdd i ychwanegu cerdyn newydd a'i arbed.
Ydw i'n gallu defnyddio cardiau gwahanol i dalu?
Ydych – gallwch ychwanegu manylion cardiau gwahanol trwy glicio ar yr eitem ‘Manage Cards’ ar y dangosfwrdd.
Os ydw i'n arbed fy ngherdyn ar y system addysg, ydy'r manylion yn ddiogel?
Dydy manylion eich cerdyn ddim yn cael eu storio ar system CivicaPay Education – mae manylion cardiau yn cael eu hamgryptio a'u cadw ar system ddiogel ar wahân.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2025
Nôl i’r Brig