Treth y Cyngor - Dywedwch wrthym os ydych yn symud cartref

Os ydych chi'n newydd i'r ardal, wedi symud i mewn i'ch cartref cyntaf neu dyma'r tro cyntaf i chi fod yn gyfrifol am dalu treth y cyngor, mae angen i chi roi gwybod i ni.

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni i dalu Treth y Cyngor, bydd angen eich Rhif Cyfrif Treth y Cyngor i lenwi’r ffurflen.

Rhowch wybod i ni os ydych yn symud i Dorfaen neu o fewn Torfaen

Unwaith y bydd gennych ddyddiad penodol ar gyfer symud cartref, rhowch wybod i ni o fewn 21 diwrnod o’r newid hwn. Mae hyn yn helpu i sicrhau na chodir treth y cyngor diangen arnoch ar eiddo nad ydych yn gyfrifol amdano. Mae hefyd yn ein galluogi i gyhoeddi bil cywir yn gyflym ar gyfer eich cyfeiriad newydd.

Sicrhewch fod y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi, yn gywir. Gall rhoi manylion ffug, camarweiniol neu anghywir olygu bod yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth y Cyngor nag sy'n angenrheidiol a gall achosi oedi rhag paratoi bil newydd.

Os ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor neu Fudd-dal Tai

Os ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor neu fudd-dal tai, bydd angen i chi roi gwybod ar wahân i'r tîm budd-daliadau eich bod wedi symud.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw & Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

E-bost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig