Treth y Cyngor - Dywedwch wrthym os ydych wedi newid eich enw

Os ydych wedi newid eich enw a hoffech i hyn gael ei ddiweddaru ar eich bil, gallwch anfon e-bost i revenues@torfaen.gov.uk gan gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

  • rhif eich cyfrif
  • eich cyfeiriad
  • yr enw sydd gennym ar eich cyfrif ar hyn o bryd
  • yr enw newydd yr ydych am i ni ei rhoi ar y cyfrif
  • y rheswm dros newid enw ee  priodas, ysgariad

Hefyd atodwch unrhyw dystiolaeth eich bod wedi newid eich enw, gyda'ch cais cychwynnol.

Os nad ydych chi'n cyflwyno tystiolaeth, gallwn ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth bellach i gadarnhau eich bod wedi newid enw, ee tystysgrif priodas, gweithred newid enw gofrestredig, neu unrhyw ddull adnabod arall.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw & Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

E-bost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig