Treth y Cyngor - Ychwanegu rhywun at eich bil
Ni allwn ychwanegu rhywun at eich bil oni bai y gallant fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor, ee eich cymar, cydberchennog neu gyd-denant. Os oes angen i chi ychwanegu rhywun at eich bil, dylech anfon y canlynol mewn e-bost i revenues@torfaen.gov.uk:
- rhif eich cyfrif
- eich cyfeiriad
- enw llawn y person fydd yn cael ei ychwanegu
- y dyddiad y symudodd i mewn i’r eiddo
- sut mae’n atebol am Dreth y Cyngor (i gydberchnogion a chyd-denantiaid, bydd angen i chi gyflwyno’r dystiolaeth berthnasol fel copi o'ch cytundeb cyd-denantiaeth)
- Yna byddwn yn ychwanegu enw’r person at y cyfrif a'r biliau.
Fel arfer, ni allwn ychwanegu rhywun at eich bil dim ond i gadarnhau ei fod yn breswylydd os na ellir ei ddal yn atebol am Dreth y Cyngor.
Os oeddech yn derbyn gostyngiad person sengl ond mae rhywun wedi symud i mewn gyda chi, mae'n rhaid i chi ganslo eich gostyngiad person sengl ac ychwanegu enw’r person at eich cyfrif Treth y Cyngor a'ch biliau.
Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2024
Nôl i’r Brig