Safleoedd Carafannau a Gwersylla - Gwneud Cais am Drwydded
Safleoedd Carafannau a Gwersylla
| Crynodeb o'r Drwydded | I redeg safle carafannau a gwersylla, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.   Gallai amodau fod ynghlwm wrth y drwydded yn ymwneud ag unrhyw rai o'r canlynol:   
cyfyngu pryd y gall y carafannau fod ar y safle i bobl fyw ynddynt neu gyfyngu ar nifer y carafannau a all fod ar y safle ar unrhyw adeg benodolrheoli'r mathau o garafannau ar y saflerheoli'r mannau lle caiff y carafannau eu gosod neu reoleiddio'r defnydd o gerbydau ac adeileddau eraill, gan gynnwys pebyllsicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella'r tir, gan gynnwys plannu/ailblannu coed a llwynimesurau diogelwch rhag tân ac ymladd yn erbyn tânsicrhau bod offer, gwasanaethau a chyfleusterau glanweithiol yn cael eu cyflenwi a'u cynnal | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Rhaid bod hawl gan yr ymgeisydd i ddefnyddio'r tir fel safle carafannau.   Ni chaiff trwyddedau eu cyflwyno i ymgeiswyr sydd wedi cael trwydded safle wedi'i diddymu o fewn tair blynedd o'r cais presennol. | 
|---|
| Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon  | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwyddedau safle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sef yr awdurdod lleol y mae'r tir wedi'i leoli yn ei ardal.   Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig, dylent roi manylion y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol yn gofyn amdani. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan eich awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod. Cewch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes.  | 
|---|
| Sut i wneud cais | Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gall y cais am ffurflen trwydded safle ar gael i'w lawrlwytho yma. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Fe'ch cynghorir i drafod unrhyw broblem gyda'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.   Os yw cais gan ddeiliad trwydded i addasu amod yn cael ei wrthod, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad gwrthod a rhaid cyflwyno hysbysiad o'r apêl i'r cyngor dosbarth lleol. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Fe'ch cynghorir i drafod unrhyw broblem gyda'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.   Os bydd deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth drwydded, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 dwrnod o gyflwyno'r drwydded.   Gall y cyngor dosbarth lleol addasu amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo roi cyfle i ddeiliaid trwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno â'r newidiadau, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o'r addasiad a rhaid cyflwyno hysbysiad o'r apêl i'r cyngor dosbarth lleol. | 
|---|
| Apeliadau a Chwynion | Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach |  | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2024 
 Nôl i’r Brig