Tyllu'r croen (tatŵo, electrolysis, aciwbigo a thyllu'r clustiau)

I redeg y rhan fwyaf o fusnesau tatŵo neu dyllu'r croen, gan gynnwys aciwbigo, tyllu'r clustiau ac electrolysis (o safle parhaol neu symudol), mae'n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol. Efallai y byddwch wedi'ch eithrio os ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol rheoledig.

Mae'r rheolau hyn yn bwysig, oherwydd gall tyllu'r croen arwain at heintio, creithio ac amrywiaeth o glefydau fel Hepatitis.

Mae'r Cyngor yn archwilio pob safle lle y bwriedir tyllu'r croen, a rhaid i unrhyw un sy'n cynnal triniaeth o'r fath gydymffurfio ag is-ddeddfau llym a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Mae'r is-ddeddfau hyn ar waith i sicrhau hylendid y safle a'r sawl sy'n cyflawni'r driniaeth tyllu.

Cyngor i unrhyw un sydd eisiau tatŵ neu dyllu'r croen

Os ydych yn meddwl am gael tatŵ ar ran o'ch corff neu dyllu'r croen, awgrymwn eich bod yn dilyn y cyngor isod:

  • Ewch i weld y safle cyn y tyllu bob amser
  • Gofynnwch a yw'r safle wedi'i gofrestru gan y Cyngor a gofynnwch am weld y dystysgrif
  • Gwnewch yn siwr fod yr enwau ar y dystysgrif yn ddilys o hyd
  • Gofynnwch am gael edrych o gwmpas; a yw'n edrych yn lân ac mewn cyflwr da?
  • Gofynnwch am gael gweld enghreifftiau o unrhyw emwaith neu rai tatŵs a wnaed yn flaenorol (cofiwch, byddwch yn byw gyda hyn am weddill eich oes, felly mae'n bwysig eich bod yn cael gwaith sydd o ansawdd da yn ogystal ag yn hylan)
  • Gwnewch yn siwr fod unrhyw offer tyllu wedi'i ddiheintio ymlaen llaw a'i fod yn cael ei storio mewn bag dan sêl yn ddelfrydol
  • Gofynnwch pa hyfforddiant sydd gan yr unigolyn sy'n gwneud y gwaith tyllu
  • Gofynnwch am gael gwybodaeth ysgrifenedig am ôl-ofal
Y peth pwysicaf i'w wneud yw cadarnhau eu bod wedi eu cofrestru gyda ni - mae hyn yn golygu y byddwn wedi eu harchwilio a chadarnhau bod eu safonau hylendid yn dda - cofiwch, ni allwn archwilio eu safonau hylendid oni fyddwn ni'n gwybod eu bod nhw'n masnachu!

Os ydych angen cofrestru eich hun a/neu eich safle ar gyfer tyllu'r croen neu newid manylion cofrestru presennol, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i'w cael yma.

Os ydych yn pryderu am safle busnes rydych chi'n amau nad yw wedi'i gofrestru neu nad yw'n cael ei gynnal yn briodol, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Os ydych chi’n poeni am unrhyw leoliad neu berson a allai fod wedi tyllu croen neu greu tatŵ ar rywun sydd o dan 18 oed dylech gysylltu â’r swyddog trwyddedu ar unwaith, ac efallai y cewch eich cynghori hefyd i gysylltu â’r Heddlu gan y gallai’r tyllu/tatŵ gyfrif fel ymosodiad.

Cylchlythyr i Ymarferwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio cylchlythyrau cyfnodol er mwyn darparu gwybodaeth i Ymarferwyr ynghylch symud ymlaen ar gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig yng Nghymru. Gallwch ddarllen y cylchlythyr diweddaraf yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig