Safleoedd Gwersylla - Gwneud Cais am Drwydded
Safleoedd Gwersylla
| Crynodeb o'r Drwydded | Os ydych yn caniatáu i'ch tir gael ei ddefnyddio fel safle gwersylla gan y cyhoedd am dros 42 ddiwrnod yn olynol - neu 60 diwrnod mewn blwyddyn - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod lleol.   Gallai amodau fod ynghlwm wrth y drwydded.   Mae eithriadau i sefydliadau sydd â thystysgrifau eithrio ynghylch gwersylla. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth  | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon  | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno, ystyrir iddo gael ei wneud heb amodau oni bai bod yr awdurdod lleol yn hysbysu eu bod yn gwrthod y cais neu fod amodau ynghlwm wrtho. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan eich awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod. Cewch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes. | 
|---|
| Sut i wneud cais | Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais o'r fan hon. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i'w Lys Ynadon lleol. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.   Gall deiliad trwydded gyflwyno apêl yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth drwydded i'w Lys Ynadon lleol. | 
|---|
| Apeliadau a Chwynion | Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach |  | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 
 Nôl i’r Brig