Byddem yn cynghori bob amser eich bod yn cysylltu â ni cyn gwneud cais, fel y gallwn roi cyngor i chi ynghylch a oes angen cymeradwyaeth ar eich safle ac, os felly, y safonau y bydd angen eu bodloni.
Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn trefnu arolygu eich safle a thrafod y prosesu a fwriedir gennych er mwyn pennu a yw'r holl systemau, gweithdrefnau a dogfennau yn ateb gofynion hylendid bwyd. Ar yr adeg hon, gellir rhoi cymeradwyaeth yn llawn neu'n amodol am dri mis.
Ym mhob cam o'r broses, gallwch ddisgwyl i ni roi gwybodaeth ysgrifenedig lawn i chi am statws eich cymeradwyaeth. Os caiff cymeradwyaeth ei gwrthod, neu ei rhoi'n amodol yn unig, mae gennych rai hawliau apelio hefyd.
Cymeradwyaeth amodol
Os byddwn yn rhoi cymeradwyaeth amodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig am delerau'r gymeradwyaeth amodol. Os ydych wedi cydymffurfio â'r telerau hyn ymhen tri mis, cewch ymweliad pellach pan fyddwch yn cael cymeradwyaeth lawn, neu'n cael cymeradwyaeth amodol am dri mis arall neu bydd cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod.
Cymeradwyaeth lawn
Bydd Nod Adnabod (nod hirgrwn) unigryw'n cael ei roi i'r safleoedd hynny sy'n cael cymeradwyaeth lawn, a dylid rhoi'r nod hwnnw ar labeli neu becynnau cynhyrchion. Byddwn yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cynnal cronfa ddata genedlaethol o bob safle cymeradwy, am y gymeradwyaeth.
|