Adnewyddu Addunedau

Mae'r fath seremoni dathlu yn ffordd y gall cyplau ailddatgan eu haddunedau priodas. Gallwch adnewyddu addunedau ar unrhyw adeg yn eich bywyd priodasol, neu fel ffordd o ddathlu pen-blwydd priodas arbennig. Mae hefyd yn ffordd wych o ddathlu gyda theulu a ffrindiau ar ôl priodas dramor.

Yma yng Ngwasanaeth Cofrestru Torfaen ein nod yw cynnig seremoni unigryw sy'n gweddu i'ch anghenion, a all gynnwys eich dewis eich hun o eiriau, darlleniadau a cherddoriaeth. I'ch atgoffa o'r diwrnod arbennig hwn, rydym yn cyflwyno tystysgrif ac anrheg i ddathlu, ar ddiwedd y seremoni.

Os hoffech wybod mwy, neu drefnu seremoni, cysylltwch â ni ar 01495 742132.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

Ebost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig