Seremonïau Dramor
Os ydych yn bwriadu cynnal eich seremoni dramor, rhaid i chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol yn y wlad yr ydych eisiau priodi er mwyn iddynt egluro'r gofynion cyfreithiol er mwyn i’ch Priodas neu Bartneriaeth Sifil ddigwydd.
Efallai bydd gofyn i chi gael dogfennau gan awdurdodau'r Deyrnas Unedig. Os gofynnir i chi gael dogfen o'r enw Tystysgrif Dim Rhwystr, yna bydd y Gwasanaeth Cofrestru fel arfer yn gallu darparu hwn i chi. Mae pob gwlad yn gosod dyddiadau terfyn gwahanol ar gyfer y dystysgrif hon. Bydd angen i chi wirio gyda'r awdurdod yn y wlad honno er mwyn sefydlu'r wybodaeth hon cyn cysylltu â ni.
Dylai eich priodas neu bartneriaeth sifil gael ei gydnabod yn y DU os byddwch yn dilyn y broses gywir yn ôl y gyfraith leol - ni fydd angen i chi ei gofrestru yn y DU.
Mae ffi yn daladwy am y gwasanaeth hwn.
Os oes angen unrhyw arweiniad pellach, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i helpu.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig