Llunio Partneriaeth Sifil
Mae Partneriaeth Sifil yn seremoni hollol seciwlar (anghrefyddol). Gellir ei chynnal mewn swyddfa gofrestru neu leoliad sydd wedi'i drwyddedu i gynnal Seremonïau Partneriaeth Sifil. Ni all y seremoni gael unrhyw gynnwys crefyddol, ond gellir ychwanegu ambell i beth bach unigol fel cerddoriaeth anghrefyddol a darlleniadau.
Derbyniodd y Ddeddf Partneriaethau Sifil, Priodasau a Marwolaethau (Cofrestru ac ati) gydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2019 ac estynnodd gymhwysedd i gyplau o'r rhyw arall ffurfio partneriaeth sifil.
I gofrestru partneriaeth sifil, byddai angen i chi a'ch cymar lofnodi dogfen partneriaeth sifil o flaen dau dyst a chofrestrydd.
Pwy all gofrestru Partneriaeth Sifil?
Gallwch chi a'ch cymar gofrestru eich Partneriaeth Sifil cyn belled ag y bod yr holl amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi'ch dau dros 18
- Nid ydych yn briod eisoes neu mewn Partneriaeth Sifil
- Nid ydych yn perthyn yn agos trwy waed neu briodas
Penderfynu ymhle y byddwch yn cynnal eich Partneriaeth Sifil
Yng Nghymru a Lloegr, gall Priodas Sifil neu Bartneriaeth Sifil ddigwydd mewn Swyddfa Gofrestrfa neu mewn adeilad a gymeradwywyd ar gyfer Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil. Ewch i wefan Gov i gael gwybodaeth bellach.
Mae nifer o adeiladau trwyddedig ar gyfer Seremonïau Partneriaeth Sifil yn Nhorfaen.
Mae Swyddfa Gofrestru Torfaen wedi'i leoli yn 'neuadd y dref.' Adeilad mawr o gyfnod Victoria yng nghanol canol tref Pont-y-pŵl. Mae nifer o ystafelloedd wedi'u trwyddedu ar gyfer priodas yn yr adeilad.
Mae sawl ystafell wedi'u trwyddedu ar gyfer Seremonïau Partneriaeth Sifil yn yr adeilad.
- Ystafell Hanbury: Ystafell fawr, seremonïol sydd yn dal hyd at 50 o westeion
- Ystafell y Parc: Ystafell seremonïol, fach a chlos, sydd yn cynnig lle i hyd at 10 o westeion i eistedd
- Y Swyddfa Gofrestru: Ar gael i’r cwpwl a dau dyst (Llun – Iau yn unig)
Mae buarth wrth ochr yr adeilad ar gael i dynnu lluniau. Fel arall, mae Gerddi Eidalaidd Parc Pont-y-pŵl gyferbyn, ac yn darparu'r lleoliad perffaith fel cofnod o'ch diwrnod arbennig.
Gweld lluniau o’r man gwasanaeth a’r ystafelloedd seremoni sydd ar gael
Mae’r ffioedd cofrestru yn cynnwys defnyddio’r ystafell yn ogystal â phresenoldeb cofrestrydd.
Fel arall, gallwch ddewis o un o’n lleoliadau trwyddedig eraill o fewn y fwrdeistref i gynnal Partneriaeth Sifil.
Bydd angen talu ffioedd cofrestru am bresenoldeb y swyddog cofrestru ar y dydd a bydd hyn yn ychwanegol at y ffi y bydd y lleoliad yn ei godi am logi’r ystafell drwyddedig.
Penderfynu pryd i gynnal eich Partneriaeth Sifil
Bydd angen sicrhau bod swyddog cofrestru ar gael i fynychu eich seremoni ar y diwrnod. Derbynnir ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Gellir hefyd cofrestru partneriaethau sifil mewn adeilad crefyddol sydd wedi cael ei gymeradwyo. Efallai y byddwch yn dymuno cynnal seremoni grefyddol ar wahân ar ôl Cofrestru eich Partneriaeth Sifil. Cysylltwch â'r swyddfa os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn.
Mae angen rhoi rhybudd a gellir gwneud hynny hyd at flwyddyn ymlaen llaw.
Seremoni Awyr Agored mewn lleoliad cymeradwy
Mae'n bosibl cynnal y seremoni gyfreithiol gyfan yn cynnwys llofnodi'r gofrestr, yn yr awyr agored mewn lleoliad a gymeradwywyd. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich lleoliad yn cynnig seremonïau awyr agored cyfreithlon a bod y lleoliad awyr agored wedi’i gymeradwyo gan y gwasanaeth cofrestru
Os hoffech drafod seremoni awyr agored, cysylltwch â ni ar 01495 742132 am gymorth.
Os hoffech drafod seremoni awyr agored cysylltwch â ni ar 01495 742132 am gymorth.
Trefnu Partneriaeth Sifil mewn amgylchiadau anodd
Os oes angen cynnal eich seremoni mewn lleoliad sydd heb ei thrwyddedu ar gyfer seremonïau sifil, neu os yw eich amgylchiadau yn golygu y byddai angen i chi gynnal eich seremoni yn gyflym iawn, yna efallai y byddwn yn gallu eich helpu chi gyda hyn. Cysylltwch â'r swyddfa am arweiniad a chyngor ar eich amgylchiadau unigol. Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i oriau swyddfa arferol, yna ffoniwch Wasanaeth Tu Allan i Oriau Torfaen ar 01495 762200, a byddant yn trefnu i aelod o'r Tîm Cofrestru gysylltu â chi yn uniongyrchol.
Os hoffech chi drefnu seremoni neu os hoffech unrhyw gymorth pellach, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostio: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i’ch helpu.
Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2024
Nôl i’r Brig