Cynghrair Ieuenctid Torfaen
Mae Cynghrair Ieuenctid Torfaen yn cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion uwchradd lleol ac aelodau o 17 o wahanol sefydliadau pobl ifanc.
Ei nod yw nodi’r materion sy’n gyffredin i'r rhan fwyaf o bobl ifanc a’r atebion posibl a fydd yn cael eu rhannu gyda’r cyngor.
Fforwm Ieuenctid Torfaen yw un o'r fforymau sy'n ymwneud â'r gynghrair ieuenctid.
Mae aelodau'n cyfarfod tair gwaith y flwyddyn.
Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y cyngor sy’n strwythuro gwaith y gynghrair.
Caiff ei gefnogi gan grŵp llywio o blith y sefydliadau canlynol:
- Canolfan TOGS
- Llais
- Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
- Gwasanaeth Cymorth Pobl Ifanc Torfaen
- Home Start Cymru
- Melin a Bron Afon
- St Giles Cymru
- Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen
- Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
- Gwasanaeth Chwarae Torfaen
- Gofalwyr Ifanc Torfaen
I gael gwybodaeth am y gynghrair, e-bostiwch YourVoice@torfaen.gov.uk neu cysylltwch â Philip Wilson, ein swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ar philip.wilson@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 02/12/2024
Nôl i’r Brig