Fforwm Ieuenctid Torfaen
Mae Fforwm Ieuenctid Torfaen yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddweud wrth y cyngor am faterion sy'n bwysig iddyn nhw, a chyfrannu at benderfyniadau mae'r cyngor yn eu gwneud.
Mae'r fforwm yn agored i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy'n byw yn Nhorfaen.
Mae'n cyfarfod unwaith y mis yn ystod y tymor ysgol.
Caiff aelodau eu recriwtio unwaith y flwyddyn drwy ysgolion, clybiau ieuenctid a grwpiau cymunedol.
Mae'r fforwm presennol yn ymchwilio i'r materion canlynol:
- Sut i fynd i’r afael â fepio mewn ysgolion
- Yr angen am bolisi cyson ynghylch defnyddio toiledau ysgol
- Costau prydau ysgol
- Sut y gwobrwyir ymddygiad da mewn ysgolion
- Mwy o fannau ailgylchu mewn ysgolion
- Mannau cysgodi awyr agored mewn ysgolion uwchradd
- Ymwybyddiaeth o ddyslecsia
- Mannau awyr agored cymunedol i bobl ifanc
- Gwaith rhan amser i bobl ifanc 16 oed.
Mae'r fforwm wedi ymrwymo i weithio gyda phob person ifanc, beth bynnag yw ei rhyw, ffydd, hil, anabledd, neu gyfeiriadedd rhywiol.
I gael gwybod sut mae’r cyngor yn cefnogi pobl ifanc i gael llais, gweler Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.
Diwygiwyd Diwethaf: 01/10/2024
Nôl i’r Brig