Fforymau 50+
 Mae tri fforwm annibynnol 50+ yn cael eu cefnogi gan Gyngor Torfaen, mewn partneriaeth gydag Age Connects Torfaen:
Mae tri fforwm annibynnol 50+ yn cael eu cefnogi gan Gyngor Torfaen, mewn partneriaeth gydag Age Connects Torfaen:  
- Fforwm 50+ Blaenafon 
- Fforwm Cymorth Pobl Hŷn Pont-y-pŵl 
- Fforwm 50+ Cwmbrân 
Mae’r grwpiau yn cyfarfod bob mis, wyneb yn wyneb, yn y trefi dan sylw. Mae croeso i unrhyw un sy’n 50 oed neu drosodd ac yn byw yn yr ardal fynychu a dod yn aelod.  
Drwy fynychu cyfarfodydd Fforwm 50+, byddwch: 
- Yn cael gwybod am newyddion a gwybodaeth leol (gan gynnwys diweddariadau gan Age Connects Torfaen, y Cyngor a Gwasanaethau Cyhoeddus eraill) 
- Yn clywed gan siaradwyr gwadd am bynciau diddorol 
- Yn gallu cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chael cyfle i leisio barn ar faterion sy’n eich effeithio 
- Yn cael cyfarfod pobl newydd 
- Yn cael cyfle i fynd ar deithiau coets o bryd i’w gilydd 
Cynhelir y cyfarfodydd ar brynhawn dydd Mawrth: 
- Blaenafon - 1af dydd Mawrth y mis  
- Pont-y-pŵl - 2il ddydd Mawrth y mis 
- Cwmbrân - 4ydd dydd Mawrth y mis 
Mae’r fforymau yn cyfarfod am 11 mis o’r flwyddyn ac yn trefnu cinio Nadolig braf ym mis Rhagfyr! 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â steven.honeywill@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766958
Lleoliadau
- Blaenafon – Ysgoldy’r Capel, Eglwys Bedyddwyr Bethel, King Street, Blaenafon, NP4 9QQ
- Pont-y-pŵl - Canolfan Widdershins, Sebastopol, Pont-y-pŵl, NP4 5AB
- Cwmbrân - Eglwys Ddiwygiedig Unedig Cwmbrân, Hen Gwmbrân, NP44 3LR
Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2024 
 Nôl i’r Brig